Mwy o Newyddion
Dathlu gwaith y mentrau iaith - 25 mlynedd o gefnogi'r Gymraeg
Gyda 25 mlynedd ers sefydlu'r Fenter Iaith gyntaf mae yna ddigwyddiad arbennig brynhawn heddiw, 17 Tachwedd, er mwyn dathlu'r gwaith sydd wedi'i gyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf.
Bydd y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth gydag Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes yn annerch y gynulleidfa.
Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i glywed am enghreifftiau o’r gwaith llwyddiannus sydd wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd ar effaith bositif mae gwaith y Mentrau Iaith wedi cael ar gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Rôl y Mentrau Iaith yw gweithio ar draws Cymru i gryfhau’r Gymraeg, a hynny mewn meysydd yn cynnwys y teulu, plant a phobl ifanc, y gymuned, yr economi, a hefyd i gefnogi mudiadau eraill i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog.
Mae’r Mentrau Iaith wedi datblygu ac ehangu’n sylweddol ers sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf yn 1991, ac erbyn heddiw mae'r Mentrau Iaith yn cynnal dros 300 o swyddi ac yn gweithio gyda dros 1,000 o wirfoddolwyr yn y gymuned.
Mae’r gwaith yn cynnwys cydweithio gydag ysgolion, gwaith ieuenctid, cefnogi dysgwyr, gofal plant, gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol, i enwi dim ond rhai.
A thrwy’r gwaith hyn mae'r Mentrau Iaith yn darparu ar gyfer dros 160,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bob blwyddyn.
Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Mentrau Iaith, wrth gefnogi'r ymdrech o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae gan y Mentrau rôl allweddol wrth weithio ar lawr gwlad i annog pobl i ddysgu a defnyddio'r iaith. Galwn felly am fuddsoddiad ariannol ychwanegol i ddatblygu cefnogaeth ymarferol gadarn y Mentrau i’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.”
Dywedodd Alun Davies, AC: “Rwy'n disgwyl ymlaen i Gynhadledd Genedlaethol y Mentrau Iaith yn Aberystwyth ac yn hapus â gwaith y Mentrau.
"Rwyf hefyd yn falch eu bod yn fodlon cyfrannu o’u gwybodaeth a’u harbennigedd wrth ddatblygu Strategaeth newydd i’r Gymraeg ac yn edrych ymlaen at gydweithio pellach â’r Mentrau.”
Am ragor o wybodaeth am waith y Mentrau Iaith yn eich ardal chi, ewch i wefan http://www.mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter