Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Lansio cystadleuaeth Cân i Gymru 2017

Pwy all wadu nad ydyn nhw, rhywbryd neu'i gilydd, wedi breuddwydio am gael cân ar frig y siartiau? Cân fydd yn cael ei chlywed am flynyddoedd i ddod, yn fytholwyrdd, yn anthem.

Mae'r freuddwyd o fewn ein cyrraedd ni i gyd, a hynny drwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2017.

Pwy a ŵyr, efallai fod y gân fuddugol yn troelli yn eich pen chi ar hyn o bryd. Neu, beth am yr alaw honno y gwnaethoch chi ei hysgrifennu dro yn ôl, ond sydd byth wedi gweld golau dydd?

Gyda gwobr o £5,000 i'r gân fuddugol, £2,000 i'r ail, a £1,000 i'r drydedd; pa reswm gwell sydd i roi'r alaw a'r geiriau at ei gilydd a'u cynnig ar gyfer Cân i Gymru 2017, wrth i'r gystadleuaeth agor heddiw, 17 Tachwedd.

Ac mae digon o amser i berffeithio'r gân, gan mai'r dyddiad cau yw 5yh, ddydd Gwener, 6 Ionawr 2017.

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi S4C, ar nos Sadwrn, 4 Mawrth 2017, ac yn cyflwyno bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Meddai Elin Fflur: "Mae'n wych bod Cân i Gymru yn annog pobol i gyfansoddi.

"Mae creu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn, ac mae'r gystadleuaeth yn ffordd i'r Gymraeg gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

"Mae'n llwyfan ar gyfer talent newydd - o'r cyfansoddi i'r canu - ac yn rhoi cyfle i rai pobl brofi recordio proffesiynol am y tro cyntaf. Wna i fyth anghofio fy mhrofiad cyntaf i o gystadlu yn Cân i Gymru!"

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Does yr un gystadleuaeth sy'n debyg i Cân i Gymru am dynnu pobl at ei gilydd - boed hynny'n deuluoedd a ffrindiau yn gwylio gyda'i gilydd, neu'r miloedd o feirniaid sy'n rhannu eu barn ffraeth ar Twitter.

"Y peth pwysicaf yw'r gerddoriaeth, a chynhyrchu wyth cân newydd sbon yn y Gymraeg. Ond fyddai Cân i Gymru yn ddim heb help y gwylwyr, am mai nhw yn y pendraw sy'n dewis y gân fuddugol."

Mae'r holl fanylion am y gystadleuaeth a chopi o'r ffurflen gais ar gael ar-lein ar http://s4c.cymru/canigymru

Llun: Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur gyda Cordia

Rhannu |