Mwy o Newyddion
Taro cytundeb i osod peiriant arian ychwanegol ym Mlaenau Ffestiniog
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi croesawu’r newyddion fod bwriad gosod peiriant ATM allannol ychwanegol ym Mlaenau Ffestiniog, yn dilyn ymgyrch galed.
Bu’r Aelod Seneddol Plaid Cymru ynghyd â’r cynghorwyr lleol Mandy Williams-Davies ac Annwen Daniels yn arwain yr ymgyrch i wella cyfleusterau tynnu arian yn y dref yn sgil penderfyniad HSBC i gau banc olaf y dref mis Medi, yn wyneb gwrthwynebiad cryf gan y gymuned leol.
Bydd y peiriant ATM yn cael ei leoli tu allan i siop Co-Op yng nghanol y dref.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Rwy’n hynod falch fod cynlluniau ar y gweill i leoli peiriant ATM ychwanegol ym Mlaenau Ffestiniog, sy’n golygu y bydd trigolion Blaenau Ffestiniog yn elwa o beiriant ATM allannol ychwanegol, rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei alw amdano ers i HSBC gau eu drysau i’r cyhoedd fis Medi gan adael y dref heb yr un banc.
“Cafodd y gymuned leol ei siomi’n ddifrifol gan benderfyniad HSBC i gau eu cangen yn y dref.
"Cafodd y sefyllfa ei gwaethygu ymhellach pan gododd problemau gyda peiriannau arian y dref; a dim ond un o’r rhain sy’n darparu arian pedair awr ar hugain.
“Mewn cymuned gyda poblogaeth o bron i bum mil ynghyd â diwydiant twristiaeth sy’n cynyddu, mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn gallu tynnu arian allan pan fo'n gyfleus.
"Mae llawer o drefi gwledig yn dioddef problemau tebyg, lle mae cael mynediad at arian parod yn broblem gynyddol.
“Rwy'n deall bod y diwydiant ATMs yn symud tuag at system talu i mewn yn ogystal â thynnu arian allan ac rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan y gall cymunedau gwledig elwa o’r gwasanaeth newydd hwn.
"Mae yna angen hefyd am adolygiad cynhwysfawr o drethi busnes ATMs i wneud gosod y peiriannau hyn yn fwy hyfyw.
“Hoffwn ddiolch i’r Co-Op am ymateb mor gadarnhaol i bryderon pobl lleol ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch i sicrhau'r canlyniad hwn, boed hynny trwy ysgrifennu llythyrau, arwyddo deisebau neu lleisio eu pryderon."
Dywedodd y Cynghorwyr Mandy Williams-Davies ac Annwen Daniels: “Rydym yn croesawu'r ffaith fod ateb wedi ei ganfod o'r diwedd ac y bydd ATM newydd yn cael ei osod.
“Mae trafodaethau rhyngom ni a chynrychiolwyr banc wedi bod ar y gweill ers i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau’r gangen yn y dref yn ôl ym mis Mehefin.
“Rydym yn diolch i Co-op am eu cydweithrediad ac am gytuno i roi peiriant ATM allanol y tu allan i'r siop. Mae hyn yn newyddion da i drigolion lleol, busnesau a thwristiaid sy'n ymweld â'r ardal."
Llun | Liz Saville Roberts AS a’r Cynghorwyr Mandy Williams-Davies ac Annwen Daniels tu allan i Co-Op Blaenau Ffestiniog