Mwy o Newyddion
Dros £10m ar gyfer unedau cardiaidd yng Nghymru
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £10m er mwyn i unedau cardiaidd mewn ysbytai gael cyfarpar allweddol newydd ar gyfer eu labordai.
Mae triniaethau cardiaidd allweddol, sy’n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cardiaidd modern megis angiograffeg goronaidd a gosod rheolyddion calon, yn cael eu gwneud mewn labordai cathetreiddio.
Caiff yr arian ei ddefnyddio i dalu am systemau delweddu a monitro newydd mewn saith o’r 10 labordy cathetreiddio sydd yng Nghymru. Nid oes angen cyfarpar newydd yn y tri labordy arall ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Rydyn ni wedi ymrwymo i wella gwasanaethau clefyd y galon yng Nghymru.
"Drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cardioleg, rydyn ni’n sicrhau bod ysbytai’n gallu trin cleifion sydd wedi cael diagnosis o gyflwr ar y galon yn gyflym ac yn effeithiol, a hynny mor agos â phosibl i’w cartrefi.
“Mae’n bwysig gwneud diagnosis mor fuan â phosibl er mwyn i gleifion allu cael y siawns orau o gael canlyniad da.”
Dyma’r byrddau iechyd ledled Cymru sydd wedi cael arian:
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael £1.77m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Gwent
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael £2.43m ar gyfer Ysbyty Treforys, ac £1.66m ar gyfer Ysbyty Tywysoges Cymru
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael £1.52m ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd
- Mae’r ddau labordy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sydd o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi cael £2.48m, ac mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cael £0.81m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae’r amrywiadau yn yr arian a roddir i wahanol safleoedd ledled Cymru yn adlewyrchu gwahaniaethau ym manyleb y cyfarpar a’r costau sy’n gysylltiedig â’i osod.