Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Awst 2011

Rhoi cynnig ar sgiliau newydd

Gwnaeth Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, amlinellu’i ymrwymiad i godi lefelau sgiliau gweithlu Cymru a rhoi hwb i broffil cymwysterau galwedigaethol a llwybrau gyrfa yn ystod ei ymweliad â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Wrecsam.

Gwelodd Mr Cuthbert yr amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru wrth iddo roi cynnig ar grefftau gwledig Cymru, peirianneg beiciau modur a modelu 3D gan ddefnyddio clai a graffeg gyfrifiadurol.

Dyma rai o’r sgiliau y mae Eisteddfodwyr wedi cael cyfle i ‘roi cynnig’ arnynt ar stondin Llywodraeth Cymru.

“Bob blwyddyn mae degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn dilyn y llwybr hyfforddiant galwedigaethol i gael cymwysterau a sgiliau sy’n gallu arwain at yrfa ddigonol, swydd well neu gam yn nes at astudio ymhellach, “ dywedodd Mr Cuthbert.

 

“Mae sicrhau bod gennym ddigonedd o weithwyr talentog wedi’u hyfforddi ac sydd eu hangen ar fusnesau Cymru yn hanfodol ar gyfer ein heconomi. Dyna paham yr wyf wedi’i gwneud hi’n flaenoriaeth i godi lefel sgiliau sylfaenol gweithlu Cymru ac yn ddiweddarach eleni byddwn yn lansio adolygiad o’r cymwysterau sy’n addas at y pwrpas.”

 

Roedd y cyfleoedd ‘rhowch gynnig arni’ yn yr Eisteddfod hefyd yn rhan o gyfraniad Cymru i ymgyrch Worldskills Llundain 2011, sef ‘Bydd yn un mewn miliwn’: ymgyrch i ddarparu miliwn o gyfleoedd i bobl ledled y DU i roi cynnig ar sgiliau newydd mewn ffordd sy’n hwyl, yn rhyngweithiol ac yn cynnwys pawb gan godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiad WorldSkills Llundain 2011 ar yr un pryd a chan ennyn diddordeb ynddo hefyd.

 

Dywedodd Mr Cuthbert fod “WorldSkills Llundain 2011 yn gyfle gwych i godi proffil sgiliau galwedigaethol gyda rhai o’r dysgwyr mwyaf talentog o bob rhan o’r byd yn dod i’r un man i arddangos eu sgiliau. Mae’n gyffrous iawn i weld bod y digwyddiad wedi llwyddo i ennyn diddordeb ein rhwydwaith yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch ‘Bydd yn un mewn miliwn’ yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent.”

 

Yn yr Eisteddfod gwnaeth Mr Cuthbert gwrdd â rhai oedolion sy’n ddysgwyr o Goleg Iâl, Wrecsam i drafod eu profiadau o ran cystadlu yng nghystadlaethau cenedlaethol WorldSkills yn y DU. Mae’r dysgwyr hefyd yn meithrin sgiliau newydd drwy raglen Adeiladu Sgiliau Oedolion Llywodraeth Cymru sy’n rhoi cyfle i’r rhai hynny sydd wedi gadael addysg amser llawn ac sydd heb ddod o hyd i waith, i ddatblygu sgiliau sy’n ymwneud â’r gwaith ac i dderbyn lleoliadau gwaith er mwyn gwella’u sgiliau a’u cyfleoedd o ran swyddi.

Bu Paul Green o Goleg Iâl ac Ian Thomson o Goleg Llandrillo yn siarad â’r Dirprwy Weinidog am y ffaith bod y ddau ohonynt wedi’u penodi yn Rheolwyr Hyfforddi WorldSkills i gwmni CNC Milling and Turning. Yn y swyddi hyn byddant yn datblygu talent Tîm y DU fydd yn cystadlu eleni yn nigwyddiad WorldSkills Llundain 2011.

 

Dywedodd Mr Cuthbert “Rwy’n falch iawn bod gymaint o bobl o Gymru yn cymryd rhan yn nigwyddiad WorldSkills Llundain 2011. Hoffwn weld cymwysterau galwedigaethol yn cael yr un gydnabyddiaeth â chymwysterau academaidd. Cânt eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr ac maent yr un mor bwysig â chymwysterau academaidd. Bydd y digwyddiad hwn yn gwneud llawer o’r gwaith i helpu sicrhau gwaddol hirdymor ar gyfer sgiliau galwedigaethol.”

Rhannu |