Mwy o Newyddion
Dippy’r deinosor ar ei ffordd i’r Senedd
AG yntau erioed wedi ei arddangos yn gyhoeddus y tu allan i Lundain, bydd Dippy yn teithio ar hyd a lled y wlad o ddechrau 2018 i ddiwedd 2020.
Mae’r eicon Prydeinig ar ymgyrch i ysbrydoli pum miliwn o anturiaethau astudiaethau natur, gan annog teuluoedd i ymchwilio i natur ar garreg eu drws.
Rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020, bydd Dippy yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Dippy wedi swyno ymwelwyr ers iddo gyrraedd Llundain yn 1905. Gyda chefnogaeth hael gan Sefydliad Garfield Weston, bydd y daith yn tanio dychymyg y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac yn cysylltu’r genedl â natur.
Dywed Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston: “Cafodd cenedlaethau o blant eu swyno gan bresenoldeb ysblennydd Dippy yng nghanol yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, ac rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i ysbrydoli’r genedl i ailddarganfod natur wrth iddo fynd ar ei daith o amgylch y DU.
“Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn edrych ymlaen at weld Dippy yn cymryd lle blaenllaw yn y gwahanol leoliadau ac at weld plant yn dangos brwdfrydedd ac yn ymgysylltu â’r bywyd gwyllt o’u cwmpas.
“Mae pawb yn y Sefydliad yn edrych ymlaen at weld Dippy yn cymryd lle blaenllaw yn yr holl wahanol leoliadau, ac at weld plant yn cael eu hysbrydoli i ymchwilio i’r bywyd gwyllt o’u cwmpas.”
Bydd Dippy yn ymweld â Chymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a phum rhanbarth ledled Lloegr.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwy’n falch o weithio gyda’r Amgueddfa Astudiaethau Natur i ddod â Dippy i Gymru.
“Bydd y gosodiad yn denu miloedd o bobl i’r Senedd, cartref democratiaeth Cymru.
“Gan weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn darparu profiadau dysgu unigryw yn gysylltiedig â chynaliadwyedd a gwyddoniaeth i bobl o bob oed.
“Byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i ymwelwyr drafod gorffennol a phresennol Cymru a chael dweud eu dweud am ddyfodol ein cenedl.”
Bydd pob partner yn defnyddio ymweliad Dippy i arddangos ei gasgliadau natur lleol ac astudiaethau natur, gan greu partneriaethau newydd rhwng sefydliadau diwylliannol, gwyddonol a bywyd gwyllt rhanbarthol.
Bydd taith Dippy ar draws y DU yn dilyn ehangder mawreddog amser daearegol.
Bydd y daith yn dechrau ar Arfordir Jwrasig Dorset, ac yn dod i ben yn Norwich gan ymchwilio i sut y gallwn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Ar y ffordd, bydd Dippy yn tynnu sylw at amrywiaeth gyfoethog bioamrywiaeth y DU o’r gorffennol a’r presennol.
Sefydliad partner y Cynulliad Cenedlaethol yw Amgueddfa Cymru.
Dywedodd David Anderson, y cyfarwyddwr cyffredinol: “Rydym yn edrych ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig i Dippy yn y Senedd a dehongli’r deinosor eiconig hwn ar gyfer ymwelwyr hen ac ifanc.
“Gan weithio gyda’r Senedd, rydym wedi ein cyffroi ein bod yn ymuno â Dippy fel llysgenhadon ar gyfer cynaliadwyedd.
“Gall deinosoriaid fel Dippy, anifeiliaid diflanedig o’r gorffennol, ein hysbrydoli i ofalu am anifeiliaid ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.”
Gall pobl sydd â diddordeb mewn deinosoriaid ddymuno pob lwc i Dippy ar ei daith drwy gymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Tymor Deinosor’ yr Amgueddfa yn Ne Kensington tan ddiwedd mis Rhagfyr 2016, gan gynnwys Parti Nos Calan arbennig yn Neuadd Hintze.
Diwrnod olaf Dippy yn Llundain yw 4 Ionawr 2017. Bydd gwarchodwyr yn treulio’r 12 mis nesaf yn paratoi’r cast plaster Paris cain ar gyfer ei daith.
Yn ystod haf 2017 bydd sgerbwd o Forfil Glas yn plymio yn cymryd ei le fel rhan o ail-ddelweddu Neuadd fawreddog Hintze.
Mae stori’r Morfil Glas yn cynrychioli ein cyfrifoldeb am wthio rhywogaeth byw nes ei fod ar fin diflannu, a hefyd ein cyfrifoldeb am ei ddiogelu a’i adfer.
Mae Dippy a’r Morfil Glas yn wahanol rannau o’r un stori epig ac ysbrydoledig – hanes bywyd ar y Ddaear.