Mwy o Newyddion
Gwasanaeth cau gardd goffa’r Rhyfel Mawr
CYNHELIR gwasanaeth cyhoeddus byr yng Nghastell Caernarfon am 2.15 brynhawn Sul, 20 Tachwedd i gau’r Ardd Goffa’r Rhyfel Mawr a agorwyd fis Gorffennaf i dalu teyrnged i’r 4,000 o Gymry a gollwyd neu anafwyd ym Mrwydr Coed Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd hyn yn cyd-fynd â diwrnod olaf y Cerflun Pabiau Weeping Window yn y Castell.
Bu’r ardd yn hynod lwyddiannus – gosodwyd mwy na 10,000 croes yno ers mis Gorffennaf a chodwyd dros £51,000 ar gyfer yr Apêl Pabi.
Agorwyd yr Ardd Goffa ar 7 Gorffennaf gan Arglwydd Raglaw Gwynedd Edmund S Bailey, ac fe’i sefydlwyd gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, Amgueddfa y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Castell a Cadw.
Bu gwirfoddolwyr Cymdeithas Feteran Caernarfon yn gofalu amdani yn ddeheuig iawn drwy gyfnod ei bodolaeth.