Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Tachwedd 2016

Galw am adolygiad o gynllun pensiwn y glowyr

Mae AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Steffan Lewis, heddiw wedi pwyso ar Lywodraeth y DG i roi terfyn ar yr “anghyfiawnder sy’n parhau” sy’n golygu bod symiau mawr o arian yn cael eu cymryd o Gronfa Bensiwn y Glowyr (MPS).

Bydd Steffan Lewis yn arwain dadl yn y Cynulliad ar y pwnc ar ddydd Mercher lle bydd yn galw am adolygiad o’r trefniant rhannu gweddill hanner-a-hanner rhwng Llywodraeth y DG a’r MPS – adolygiad sy’n cael ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

Bydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau adolygiad o’r fath gan Lywodraeth y DG er mwyn cael mwy o degwch i gyn-lowyr a’u teuluoedd.

Meddai: “Yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwnaeth llywodraeth y DG y penderfyniad gwarthus i beidio ag ymdrin yn iawn ag anghyfiawnder yn y gorffennol i lowyr - Brwydr Orgreave.

"Yn ychwanegol at ymdrin ag anghyfiawnderau’r gorffennol, rhaid iddynt yn awr wynebu anghyfiawnder sy’n dal i ddigwydd – defnyddio Cronfa Bensiwn y Glowyr fel cronfa o arian i’r wladwriaeth.

“Amcangyfrifir bod llywodraeth wedi cymryd rhyw £8 biliwn o’r gronfa bensiwn dros y blynyddoedd – graddfa anhygoel o £1 miliwn y dydd.

“Mae hyn yn swm gwarthus – arian y gallesid bod wedi ei ddefnyddio i roi gwell buddiannau i gyn-lowyr a’u teuluoedd.

“Mae’n bryd cael adolygiad fel bod y gweddill o’r gronfa yn cael ei rannu’n decach rhwng y llywodraeth a’r glowyr.

“Does neb yn dadlau nad oes gan y llywodraeth hawl i warchodaeth ariannol fel gwarantwr y gronfa bensiwn, ond mae’r sefyllfa bresennol yn ormodol ac nid oes modd ei chyfiawnhau.

“Mae hwn yn bwnc arbennig o bwysig yng Nghymru, yn enwedig yn y de-ddwyrain lle mae gennym draddodiad glofaol anrhydeddus.

"Rwyf yn llwyr gefnogi ymgyrch y glowyr i gael adolygiad o’r cynllun pensiwn a setliad gwell fel y gall glowyr dderbyn cyfran uwch o’r arian dros ben mae’n gynhyrchu.

“Gobeithio y bydd pob plaid yn y Cynulliad yn cefnogi cynnig Plaid Cymru sy’n galw am adolygiad o elfen weddilliol Cynllun Pensiwn y Glowyr.”

Rhannu |