Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2016

Canmoliaeth i Gadeirydd HCC Dai Davies wrth gyhoeddi ei ymddeoliad

Yng nghynhadledd flynyddol HCC ddydd Iau, cyhoeddodd Dai Davies, Cadeirydd HCC y bydd yn ymddeol ac fe’i ganmolwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC fel “arweinydd poblogaidd sy’n cael ei barchu am ei brofiad helaeth.”

Cyhoeddodd Mr Davies y bydd yn sefyll lawr o’r rôl ym mis Ebrill ar ôl mwy na chwe blynedd wrth y llyw.

Talwyd diolch i Mr Davies gan yr Ysgrifennydd Cabinet am ei holl waith caled, ei ymdrechion a’i orchestion dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Meddai Lesley Griffiths: “Fel y gwyddoch i gyd, mae’n ŵr poblogaidd ac yn arweinydd uchel ei barch, a derbyniodd gydnabyddiaeth am hyn gydag OBE yn 2010.

“Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod gan Dai brofiad helaeth iawn a pheidiwch â meddwl y byddaf yn eich gadael i fynd Dai – fydd hynny ddim yn digwydd! Fe wnawn ni feddwl am rywbeth arall i chi ei wneud yn y dyfodol.”

Meddai Mr Davies yn y Gynhadledd ym Mharc Menai, Bangor, bod HCC yn “fusnes llwyddiannus sy'n werth miliynau gyda phersbectif byd-eang, a bod yr amser wedi dod i adnewyddu Bwrdd HCC i hyrwyddo uchelgais y sefydliad yn effeithiol.

“Dyna pam rwyf wedi penderfynu trosglwyddo’r awenau ym mis Ebrill flwyddyn nesaf i Gadeirydd arall a fydd yn gallu symud HCC i’r lefel nesaf gyda Bwrdd newydd.”

Mae gyrfa Mr Davies wedi cynnwys cyn-lywyddiaeth Sioe Laeth Cymru a chyn Lywydd NFU Cymru. Mae’n aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru, ac yn aelod o Bwyllgor Monitro Rhaglen cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig Strwythurol Ewropeaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y buasai cyfleoedd newydd i ymuno â Bwrdd HCC yn codi cyn Ebrill ac roedd hi’n awyddus i annog merched i ymgeisio.

“Rwyf wedi cyfarfod cymaint o ferched medrus dros y chwe mis diwethaf ac rwy’n awyddus i annog merched i ymgeisio i gael balans gwell o ddynion a merched ar y Bwrdd.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cabinet bod y mater o adennill ardoll anifeiliaid o Gymru sy’n cael eu lladd yn Lloegr yn parhau i fod yn fater rhwystredig i lawer, “yn cynnwys fi fy hun.”

“Mae angen mynd i’r afael â hyn ac mae'n rhaid iddo fod yn deg. Ond, ni ddylid tanbrisio’r cymhlethdodau deddfwriaethol o gyflawni amcanion y cynnig a roddwyd gan y fforwm o gynrychiolwyr o fyrddau ardoll y diwydiant.” 

Ychwanegodd bod swyddogion yn cydweithio â Llywodraeth yr Alban a Defra i symud ymlaen gyda’r cynnwys deddfwriaethol angenrheidiol.

Dywedodd bod canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi creu heriau yn ogystal â chyfleoedd a “bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael gafael arnynt.”

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gael mynediad i farchnadoedd allweddol yn Ewrop a dyna pam bod y Prif Weinidog, fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau yn gwneud popeth o few nein gallu i sicrhau mynediad dilyffethair ac am ddim i fasnachu yn y marchnadoedd allweddol yna.”

Llun: Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC gyda Chadeirydd Bwrdd HCC, Dai Davies yng Nghynhadledd Flynyddol HCC

Rhannu |