Mwy o Newyddion
Apêl am Archifau Aneurin Bevan
Ar ben-blwydd Aneurin Bevan (Tachwedd 15, 1897), mae’r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio apêl am ddeunydd archifol am ei fywyd a’i waith.
Mae Aneurin Bevan ymhlith gwleidyddion enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru gan wasanaethu fel Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy rhwng 1929 a 1960, yn weinidog y Llywodraeth ac yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur.
Fel Gweinidog Iechyd a Thai yn llywodraeth chwyldroadol Llafur ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ef oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn dal copïau o lyfrau Aneurin Bevan gan gynnwys In Place of Fear, ac archifau ei asiant ac Ysgrifennydd Plaid Lafur Glynebwy, Cyng. Ron Evans ond maent yn awyddus i gasglu mwy o ddeunydd am waith y ffigwr pwysig yma.
Dywedodd Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol yr Archif Wleidyddol Gymreig: “Mae Aneurin Bevan yn ffigwr canolog i wleidyddiaeth yng Nghymru a Phrydain yr ugeinfed ganrif ac rydym yn awyddus i gasglu mwy o ddeunydd am ei fywyd a’i waith fel bod gwybodaeth ar gael ar gyfer y rhai sydd yn awyddus i ddysgu am ei gyfraniad i Gymru fodern.
"Rydym yn chwilio am bob math o ddeunydd; ffotograffau, llythyron, taflenni, posteri, llyfrynnau ac ati i greu casgliad newydd erbyn ei 120fed ben-blwydd yn 2017.
"Byddwn yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhywun sydd a deunydd i gyfrannu i’r Llyfrgell.”