Mwy o Newyddion
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i wyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg?
Ydych chi’n ymwybodol o rywun sydd wedi ysbrydoli eraill i fynd i faes gwyddoniaeth, neu a ydych chi wedi clywed am waith unigolyn sydd wedi gwneud prosiect gwyddonol neu dechnegol yn llwyddiant?
Os felly, beth am eu henwebu ar gyfer Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol?
Mae’r Fedal, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hefyd yn gyfle i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r gwaith ardderchog a wneir yn y maes yng Nghymru, gan roi sylw ychwanegol i brosiectau a chyfraniad unigolion sy’n gwneud cymaint dros hyrwyddo pynciau STEM ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â’r rheiny sy’n weithgar ym myd diwydiant.
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Mae’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg wedi bod yn anrhydedd bwysig er 2004, ac mae rhai o wyddonwyr amlwg Cymru wedi’i derbyn dros y blynyddoedd.
"Mae’n bwysig ein bod yn cael cyfle i nodi a chydnabod y rheiny sydd mor weithgar yn y maes, ac mae’r Fedal yn gyfle arbennig o dda i wneud hynny.
“31 Ionawr yw’r dyddiad cau ar gyfer y Fedal, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn yn llwyddo i ddenu nifer fawr o enwebiadau am wyddonwyr o bob oed mewn pob math o feysydd sy’n gweithio’n ddiflino dros wyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae gwyddoniaeth a thechnoleg wedi bod yn rhan bwysig o waith yr Eisteddfod ers dros ddeugain mlynedd, ac mae’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi datblygu’n syfrdanol dros y blynyddoedd.”
Cyhoeddir enw enillydd y Fedal ym mis Ebrill, ac fe’i h/anrhydeddir mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Gellir cwblhau’r ffurflen enwebu ar-lein eleni am y tro cyntaf – https://eisteddfod.cymru/medal-wyddoniaeth
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar gyrion Bodedern o 4-12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.eisteddfod.cymru