Mwy o Newyddion
Rhian yn ennill y Fedal Ddrama
Rhian Staples enillodd y fedal ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro ddydd Iau.
Cyflwynir y Fedal Ddrama am y cyfansoddiad gorau yng nghystadlaethau cyfansoddi y ddrama hir a’r ddrama fer, ac mae’n rhoddedig er cof am Urien Wiliam gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan.
Y beirniaid eleni oedd Arwel Gruffydd a Sharon Morgan ac yn eu barn hwy, enillydd cystadleuaeth y ddrama fer, Begw, ddaeth i’r brig gan ennill y Fedal yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro 2011. Rhian Staples o Abertawe yw Begw.
Ganed Rhian yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac fe’i magwyd yn y Bala. Y mae ei dyled yn fawr i’r fagwraeth honno am feithrin ei diddordeb yn y theatr.
Roedd ei rhieni, Gwyneth a Hefin Thomas, yn aelodau brwd o fwrlwm y ddrama amaturaidd yng Nghapel Tegid. Byddai ei thad, ei brawd, Aled, a hi’n perfformio tra roedd ei mam yn chwysu gefn llwyfan yn creu ac addasu’r gwisgoedd. Un o’i hatgofion gorau yw cael bod yn rhan o gast enfawr Pasiant y Pasg a Stori’r Geni yn y capel, dan gyfarwyddyd Buddug James Jones; roedd yn fwy o epig Feiblaidd na ffilmiau Cecil B. DeMille!
Y sêt fawr wedi diflannu dan lwyfan enfawr a’r hen gapel wedi’i weddnewid i edrych fel Palesteina, y Festri’n ganolfan golur, ystafell y blaneoriaid yn ystafell wisgo a’r capel yn fwrlwm o emosiynau pwerus. Wrth chwarae’r gaethferch a achubwyd gan y pedwerydd gŵr doeth y sylweddolodd Rhian mai actores yr oedd hi am fod!
Cymerodd Buddug James Jones hi dan ei hadain a dyna ddechrau teithio o ŵyl ddrama i ŵyl ddrama yn meithrin y grefft. Enillodd wobrau actio yn yr Urdd a Chwpan Olwen Myers am berfformiad gorau yn y Genedlaethol ddwywaith yn olynol a dyna selio’r penderfyniad i fynd i Aberystwyth i astudio Drama, gan raddio ym 1991, a dechrau ar ddeng mlynedd o fwynhau gweithio ym myd y theatr.
Treuliodd eu hugeiniau’n gweithio mewn sawl cwmni theatr ledled Prydain ac ar sawl drama radio gyda Radio Wales a Radio 3. Wrth weithio ar ddrama ar y rhyfel yn Bosnia, dechreuodd glywed mwy a mwy am gyflwr bywyd pobl gyffredin yn y wlad honno. Bu mewn sawl cyfarfod a phrotest yn erbyn y rhyfel a phenllanw hyn i gyd oedd iddi hi, a dau o’i chydactorion, drefnu taith ddyngarol i fynd ag offer i blant ysgol yn Banovici, Bosnia. Dyna pryd y penderfynodd newid cyfeiriad a throi at fyd addysg.
Mae Rhian bellach yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac wrth ei bodd yno. Mae ei diolch yn fawr i ddisgyblion yr ysgol honno; hebddynt ni fyddai wedi ennill y Fedal Ddrama. Gan eu bod wrth eu bodd ar y llwyfan, y mae Rhian wedi cyfieithu sawl testun iddynt a chreu rhai o’r newydd, fel sgript Cyflwyniad Dramatig buddugol Eisteddfod Ciliau Aeron.
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn wych i Rhian: cyhoeddi ei drama gyntaf gyda’r Lolfa: Hap a … ar gyfer disgyblion TGAU; cyfarwyddo cynhyrchiad llwyddiannus o Les Miserables gyda’r ysgol ac ennill y Fedal Ddrama! Y mae bellach yn byw yn Abertawe gyda’i chymar a does dim yn well ganddynt na deffro ar fore braf a cherdded y ci ar draethau Gŵyr.
Daeth y syniad wrth wrando ar Radio 4 ar y ffordd i’r ysgol, eitem fer am ddyn a menyw a oedd wedi cwrdd ar wefan hunanladdiad ac wedi misoedd o gysylltu, wedi penderfynu diweddu eu taith gyda’i gilydd. Yr oedd yn eitem a oedd yn gymysgwch o oerni technoleg a thrasiedi cyflwr y gymdeithas. Tyfodd y syniad a daeth unigrwydd bywyd cyfoes yn amlwg ac angen angerddol pobl i ddianc.
Y mae’r ddrama’n archwilio dau gymeriad; addewidion bywyd a beth sy’n digwydd pan nad ydyw addewidion llencyndod yn troi’n goncrit. Y mae’n amhosibl dychwelyd i orffennol yr addewidion hynny ac felly i ble y mae rhywun yn mynd?