Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2016

Myfyrwyr yn cefnogi galwad am ysgol feyddygol i Fangor

Mae’r cytundeb cyllidol a wnaethpwyd rhwng Plaid Cymru a Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyllid ar gyfer datblygu Ysgol Feddygol i Fangor.

Cadarnhawyd hyn gan AC Arfon Siân Gwenllian sydd wedi bod yn ymgyrchu’n galed dros hyfforddiant meddygon yng ngogledd Cymru ers ei hethol bum mis yn ôl.

Dywedodd Siân Gwenllian AC: “Yn ystod fy ymgyrch etholiad yn gynharach eleni, mi wnes i addewid y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i i gyrraedd y nod o gael Ysgol Feddygol i Fangor.

"Mae dwy ysgol feddygol yn ne Cymru ac mae hi’n hen bryd i feddygon gael eu hyfforddi yn y gogledd hefyd.

“Byddai hyn yn mynd beth ffordd at ateb yr angen am ragor o ddoctoriaid yn ein hardal ni.

"Dengys y tystiolaeth bod meddygon yn aros yn yr ardal ble y cafon nhw eu hyfforddi.

"Gall yr Ysgol Feddygol fanteisio ar seiliau ardderchog y gwaith partneriaethu sy’n digwydd yn barod rhwng Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Roeddwn wrth fy modd bod y cytundeb a gafodd ei daro rhwng Plaid Cymru a Llafur ar gyllideb ddrafft Cymru 2017/18 yn cynnwys ymrwymiad ariannol i ysgol feddygol ym Mangor.

"Rwyf rwan yn edrych ymlaen at weld yr achos fusnes sydd yn cael ei pharatoi ac at y trafodaethau manwl rhwng y partneriaid i gyd.”

Mae ymgyrch Siân Gwenllian yn cael ei hyrwyddo gan nifer yn y maes gan gynnwys dwy fyfyrwraig o ogledd Cymru.

Mae Catrin Elin Owen ac Elen Berry o Ben Llŷn a Dinbych yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, ond byddai’r ddwy wedi gwerthfawrogi’r cyfle i astudio yn y gogledd.

Dywedodd Catrin Elin Owen: “Rydw i newydd fod ar brofiad gwaith yn Ysbyty Gwynedd yn treulio amser yn y Adran Niwroleg yn ogystal â Seicoleg ac Oncoleg ac mi ges i brofiad gwych.

"Mae Ysbyty Gwynedd yn gweithio’n agos efo Ysbyty Glan Clwyd a Walton yn Lerpwl er mwyn rhoi profiad eang i fyfyrwyr, felly mae’r isadeiledd yn ei lle yn barod.”

Mae Elen Berry hefyd ar ei phedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd ac yn ansicr ar hyn o bryd i ba gyfeiriad yr aiff hi yn feddygol.

Meddai: “Dwi’n profi rhagfarn pan mae myfyrwyr yn cael cynnig profiad gwaith ym Mangor – dydyn nhw byth yn awyddus iawn i fynd oherwydd bod gymaint o bobol yn meddwl bod dim byd yna a dim byd i’w wneud.

"Ond unwaith maen nhw wedi bod does ganddyn nhw ddim byd ond pethau positif i’w dweud am y profiad.

"Dwi wir yn gobeithio y daw Ysgol Feddygol i Fangor yn y dyfodol agos, byddai’n datrys llawer o broblemau ac yn rhoi mwy o opsiynau i ddarpar-feddygon.”

Rhannu |