Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2016

Pryder dros y nifer o blant sy'n dechrau'r ysgol yn cael trafferth â'u lleferydd

Dywed athrawon ysgolion cynradd yng Nghymru eu bod yn aml yn gweld plant yn dechrau’r ysgol yn cael trafferth gyda’u lleferydd a’u hiaith, gan achosi iddyn nhw gael eu gadael ar ôl plant eraill.

Dywedodd bron i wyth o bob deg (79%) o athrawon Derbyn yng Nghymru eu bod yn aml yn gweld plant sy’n ymuno â’u hysgol yn cael trafferth siarad mewn brawddegau llawn a nododd dros hanner (57%) yr athrawon fod y plant hyn hefyd yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau.

Yn ôl 89% o’r athrawon a gymrodd ran yn yr arolwg, un o’r canlyniadau i blant sy’n dechrau yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith ohiriedig yw eu bod yn syrthio y tu ôl i blant eraill yn eu dysgu.

Cred Achub y Plant, a gomisiynodd yr ymgynghorwyr ymchwil blaengar, ComRes,  i gynnal yr ymchwil, bod lleferydd ac iaith ohiriedig yn un o brif achosion y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy’n byw mewn tlodi, a’u cyfoedion mwy cyfoethog yng Nghymru.

Pan ofynnwyd i athrawon am effeithiau tlodi ar leferydd ac iaith gynnar plentyn, cytunodd 79% bod tlodi yn gallu cael effaith negyddol.

Cytunodd y mwyafrif llethol (97%) o athrawon y dylai mwy gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar er mwyn gwella sgiliau lleferydd ac iaith plant sy’n cyrraedd yr ysgol gynradd.

Sgiliau iaith gynnar sy’n gosod y sylfaeni ar gyfer adeiladu ar ddatblygiad, hyder a gallu plentyn i ddysgu.

Maent hefyd yn cael effaith pellgyrhaeddol ar sgiliau cymdeithasol, y gallu i greu perthynas ac ymddygiad y plentyn.

Meddai  Rob Williams, Cyfarwyddwr Polisi NAHT Cymru: “Rydym yn gwybod bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cyrraedd yr ysgol yn 4 oed, eisoes 40% y tu ôl i’w cyfoedion yn nhermau eu datblygiad.

"Yn aml mae ein haelodau yn enwi caffaeliad lleferydd ac iaith fel un o’r ardaloedd amlycaf ar gyfer cymorth ychwanegol ac oni bai yr eir i’r afael â’r gwahaniaeth yma yn gynnar gall gael effaith ar allu'r plentyn i gael at y cwricwlwm ehangach ac ar eu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Caroline Newman, Llywydd NAHT Cymru a Phennaeth Ysgol Gynradd Gladstone yn Y Barri: “Rydym yn sicr wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o’n plant sy’n dechrau yn yr ysgol yn cael trafferth gyda’u lleferydd ac iaith.

"Mae plant gyda sgiliau iaith gwael dan anfantais yn syth a gall hyn arwain at ymddygiad heriol oherwydd rhwystredigaeth sydd yn arafu datblygiad a dysg ymhellach.

"Mae dirfawr angen creu ymwybyddiaeth ymysg rhieni ac i’w cynnwys yn addysg eu plant a hefyd ar gyfer hyfforddiant ac arbenigaeth yn y maes blynyddoedd cynnar i roi y cymorth sydd ei angen ar y plant hyn.”

Dangosa gwaith ymchwil Achub y Plant, Barod i Ddarllen, a gyhoeddwyd yn 2015, bod plant sy’n byw yng Nghymru ac mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol i sgorio o dan y cyfartaledd mewn profion geirfa yn 5 oed na’u cyfoedion mwy cyfoethog, ac mae’n bosib na fydd y rheiny sy’n cael trafferth tra’n blant bach fyth yn dal i fyny.

Yng Nghymru mae un ym mhob pedwar o blant sy’n cael eu magu mewn tlodi yn gadael yr ysgol gynradd heb fod yn gallu darllen yn dda.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu Cynllun Drafft 10 Mlynedd ar Gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru, a gyhoeddir yng ngwanwyn 2017, i sicrhau fod pob plentyn a rhieni yn y maes blynyddoedd cynnar gyda mynediad i arbenigaeth ymarferwr â chymhwyster lefel gradd, ynghyd â hyfforddwr ar gyfer y gweithlu ehangach a mwy o gefnogaeth i rieni.

Meddai Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Yng Nghymru mae llawer o waith wedi ei wneud i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad addysg rhwng plant sy’n byw mewn tlodi a’u cyfoedion mwy cyfoethog.

"Fodd bynnag, mae’r arolwg yma yn rhoi cipolwg i ni o’r problemau sy’n dechrau ym mlynyddoedd cynnar y plentyn, hyd yn oed cyn iddyn nhw gyrraedd giatiau’r ysgol.

“Mae tlodi yn niweidio dysg gormod o blant cyn iddynt gamu i mewn i’r ystafell ddosbarth hyd yn oed.

"Os ydym o ddifrif ynghylch cau'r bwlch cyrhaeddiad a rhoi'r dechreuad gorau bosib i bob plentyn, mae’n rhaid i ni weithredu mwy yn y blynyddoedd cynnar.

“Drwy gyfrwng ei chynllun gweithlu mae gan Lywodraeth Cymru gyfle pwysig i wella safon y gofal rydym yn gallu ei gynnig i blant ieuengaf Cymru.

"Mae Achub y Plant eisiau gweld gweithredu cadarn fel y bydd, erbyn diwedd y Cynulliad yma, pob plentyn yng Nghymru gyda’r cyfleoedd a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen i ffynnu yn yr ysgol, a thu hwnt.”

Mae darganfyddiadau eraill yr arolwg yn cynnwys:

  • Mae 85% yn dweud mai un o ganlyniadau dechrau yn y Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw bod plant yn ei chael hi’n anodd i fynegi eu meddyliau neu eu syniadau. Mae 84% o athrawon yn dweud yr un peth o ran plant yn ei chael hi’n anodd i ddysgu sut i ddarllen.
  • Dywedodd tri chwarter (75%) o’r athrawon a holwyd mai un o ganlyniadau dechrau yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig ydi fod y plant yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth. 
  • Dywedodd 70% o athrawon eu bod ran amlaf yn gweld plant yn eu dosbarth yn ei chael hi’n anodd deall cyfarwyddiadau syml pan eu bod yn ymuno â’r Dosbarth Derbyn am y tro cyntaf.
  • Dywedodd dau draean (66%) mai canlyniad arall i blant sy’n dechrau yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw eu bod yn ei chael hi’n anodd dilyn nifer o weithgareddau sydd wedi eu gosod iddynt.
  • Dywedodd dros hanner yr athrawon(52%) mai canlyniad i blant sy’n dechrau’r ysgol yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw eu bod yn llai tebygol o fwynhau yn yr ysgol. 
Rhannu |