Mwy o Newyddion
Plaid Cymru’n herio’r Llywodraeth i fod yn ddewr ym maes addysg Gymraeg
Mewn dadl yn y Cynulliad ddydd Iau amlygodd Aelodau Cynulliad Plaid Cymru maint yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru i wireddu eu targed i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Wrth amlinellu rhai o’r camau pwysicaf o safbwynt addysg Gymraeg galwodd Llyr Gruffydd, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Blaid ar Addysg ar y Llywodraeth i fod yn benderfynol ac yn ddewr.
Meddai: "Un o fwriadau gosod y ddadl hon gerbron y Cynulliad yw i danlinellu anferthedd yr ymdrech sydd ei angen i ddyblu’r nifer o siaradwyr Cymraeg mewn cwta 30 mlynedd.
"Cynnydd na welwyd mo’i fath yn hanes yr iaith.
"Cynnydd fydd yn heriol inni i gyd ac a fydd yn mynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu mewn modd creadigol, penderfynol a dewr.
“Os ydyn ni am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yna bydd angen dyblu’r nifer sy’n dewis addysg Gymraeg.
"Gyda dim ond 22% o blant saith oed yn derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd mi allai hynny olygu denu 10,000 yn ychwanegol o blant o’r oed hwnnw i ddarpariaeth addysg Gymraeg a darparu 300 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar draws Cymru.
"Lluosogwch hynny ar draws pob oed a phob sector addysg ac mae maint yr her i’r gyfundrefn addysg yn unig yn dechrau dod yn amlwg.”
Dywedodd Siân Gwenllian AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Blaid ar y Gymraeg, “Er mwyn gwella’r sefyllfa mae angen sicrhau cyllid digonol i ddiogelu effeithiolrwydd cynlluniau addysg a rhaglenni sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.
"Law yn llaw â hyn mae angen gwella’r modd mae’r Llywodraeth yn arolygu effeithiolrwydd polisïau addysg cyfrwng Gymraeg.
“Mae’n rhaid i ni gyd ymfalchïo yn yr iaith, i bwysleisio manteision addysg cyfrwng Cymraeg i’n heconomi yn ogystal a’i phwysigrwydd i’n hunaniaeth a diwylliant.
“Mae’r gyfundrefn bresennol wedi methu cenhedlaeth o blant Cymru.
"Mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth rŵan i beidio ag amddifadu cenhedlaeth arall o blant ac oedolion, drwy sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ac effeithiol.”
Lluniau: Llyr Gruffydd a Siân Gwenllian