Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Tachwedd 2016

‘Datganiad 90 Eiliad’ Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn canmol Ymgyrch Elly

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas wedi defnyddio dyfais newydd yn siambr y Senedd i gymeradwyo Elly Neville a’i hymgyrch i godi arian i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae’r ‘Datganiad 90 Eiliad’ yn galluogi i Aelodau Cynulliad i wneud datganiadau yn y Senedd, am uchafswm o funud a hanner, ar fater o ddiddordeb.

Dywedodd Simon Thomas, AC y Canolbarth a’r Gorllewin: “Tua blwyddyn yn ôl, cwrddais â Elly Neville o Sir Benfro. Enillodd Elly cystadleuaeth i ddylunio gludlun o faner Sir Benfro yn ysgol gymunedol Doc Penfro, fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

“Yna, penderfynodd Elly a’i theulu i ddefnyddio’r faner o amgylch Sir Benfro i godi arian i adnewyddu ac uwchraddio Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg ac i’w ail-agor fel gward penodol i Gancr.

“Mae tad Elly, Lyn, yn gyn claf cemotherapi yn Ward 10 ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn.

“Diolch i’r staff ymroddgar a’r cyfleusterau yn Ward 10, Derbyniodd Lyn gofal, cefnogaeth a thriniaeth arbennig a wwnaeth achub ei fywyd yn ystod ei adferiad.

“Mae Apêl Baner Ward 10 Elly wedi tyfu o nerth i nerth. Nawr, mae ganddo lle swyddogol fel rhan o Elusennau Iechyd Hywel Dda.

“Hyd at heddiw, mae’r ymgyrch wedi codi dros £52,000 a newydd arwain at brynu'r offer cyntaf i’r ward. 

“Y cam nesaf yw cael cymeradwyaeth i’r achos busnes llawn i ailwampio Ward 10, cam le, er campau aruthrol Elly, fydd angen help Llywodraeth Cymru.

“Falle dylwn fod wedi crybwyll, mae Elly yn chwe mlwydd oed. Yn barod, mae hi wedi cyfrannu’n arbennig i wella Sir Benfro. Mae Elly yn glod i’w theulu, ei ysgol a’i chymuned. Enillodd hi Wobr Dinesydd Prydeinig Ifanc ym Mis Hydref.

“Rwy’n cymeradwyo ei gwaith i’r Cynulliad.” 

Rhannu |