Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Tachwedd 2016

Defnyddio'r cyswllt rhwng brecwast a chyrhaeddiad addysgol i ysgogi rhieni i wneud mwy i wella lles plant

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi dangos yn ddiweddar bod cysylltiad uniongyrchol rhwng brecwast a chyrhaeddiad addysgol.

Dyma un o brif negeseuon ymgyrch Llywodraeth Cymru eleni, sef ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’.

Nod yr ymgyrch yw annog rhieni i gymryd mwy o ran yn addysg a lles eu plentyn.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dros 4,000 o blant 9-11 oed, mewn mwy na 100 o ysgolion cynradd ledled Cymru, a dangoswyd bod cysylltiad rhwng bwyta brecwast iach a deilliannau academaidd.

Mae'r ymgyrch ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’, sy'n dechrau ar ei drydedd flwyddyn bellach, yn hyrwyddo pwysigrwydd pethau y gall rhieni eu gwneud gartref er mwyn helpu gyda dysgu a lles eu plentyn yn yr ysgol. 

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams yn egluro: “Gyda miloedd o blant ledled Cymru yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf eleni, mae'n bwysig ein bod yn parhau i annog rhieni o'r cychwyn cyntaf i gymryd mwy o ran yn yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu, a'n bod ni’n dangos yr effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael.

"Amser gwely rheolaidd a brecwast iach yw neges allweddol yr ymgyrch, ac mae'n braf gweld bod y cysylltiad cadarnhaol hwn rhwng brecwast da a graddau da wedi cael ei brofi am y tro cyntaf yn yr astudiaeth newydd hon sy'n torri tir newydd.”

Er mwyn helpu plant, a'u rhieni, drwy gydol eu cyfnod yn y blynyddoedd cynnar, yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, bydd yr ymgyrch ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’ yn rhedeg hysbyseb deledu newydd yn ystod mis Tachwedd, yn ogystal â hysbysebu ar-lein. Gallwch weld hysbyseb ddiweddaraf yr ymgyrch yma

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’ a'r adnoddau ar-lein sydd ar gael ar gyfer rhieni, ewch i www.facebook.com/dechraucartref (facebook.com/beginsathome) a gallwch ein dilyn ar Twitter @dechraucartref (@edubeginsathome)

Rhannu |