Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Tachwedd 2016

TrawsCymru yn cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth bws o Aberystwyth i Gaerdydd

Bydd y gwasanaeth bws o Aberystwyth i Gaerdydd yn ailddechrau yn ddiweddarach y mis hwn wedi i wasanaeth TrawsCymru, Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy i redeg y gwasanaeth.

Bydd gwasanaeth newydd T1C yn dod yn gyfrifol am y gwasanaeth 701 blaenorol.

Roedd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu gan gwmni Bysiau Lewis tan iddo fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn ddiweddar.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith: “Wedi i Fysiau Lewis gau yn annisgwyl, rydym wedi mynd ati’n gyflym i weithio gyda’r awdurdod lleol ac eraill i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau, gan sicrhau nad oedd y broses yn tarfu’n ormodol ar bobl.

"Roedd angen gwneud trefniadau amgen angenrheidiol ar gyfer bysiau sy’n hebrwng ac yn casglu plant o’r ysgolion, er enghraifft.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth pwysig hwn.

"Bydd y gwasanaeth yn estyn gwasanaeth presennol T1 TrawsCymru ac yn fodd i gysylltu Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin gydag Abertawe a Chaerdydd.

“Mae ailgyflwyno’r gwasanaeth hirhoedlog hwn yn sicrhau bod gan y Gymru wledig gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol, a hynny’n rhoi mwy o ddewis i deithwyr ar y llwybr strategol allweddol hwn.

“Byddwn yn adolygu’r gwasanaeth mewn chwe mis i sicrhau ei fod yn rhedeg mor effeithiol ag sy’n bosibl ac yn ateb hyfyw yn yr hirdymor.

"Mae’n amlwg ei bod yn bwysig ein bod wedi ymyrryd cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn parhau.

“Mae’n golygu y bydd angen bysys ychwanegol ar y llwybr ac felly mae’r amserlen derfynol wrthi’n cael ei chwblhau ar hyn o bryd.

"Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau cynted ag y bo modd y mis hwn.”

Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg ochr yn ochr â’r gwasanaeth bws poblogaidd T1 sy’n rhedeg rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin bob awr ac yn cysylltu â’r rheilffordd yng Nghaerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth T1C, gan gynnwys amserlen, pan fydd ar gael, ewch i wefan traws Cymru; http://www.trawscymru.info

 

Rhannu |