Mwy o Newyddion
Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi trydan 100% adnewyddadwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus cyn COP22
Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw cyn cymryd rhan mewn trafodaethau am yr hinsawdd yn CPO22 y bydd yr holl drydan a gaiff ei brynu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2017.
O fis Ebrill 2017 bydd holl gwsmeriaid ynni'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn derbyn trydan sy’n gwbl adnewyddadwy. Bydd o leiaf 50% ohono’n dod o Gymru a’r nod fydd cynyddu hyn i 100%
Bydd COP22 yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad y llynedd ym Mharis pan lwyddwyd i gymeradwyo cytundeb ar gyfer cadw cynhesu byd eang oddi tano 20C.
Bydd cynhadledd eleni’n gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet dynnu sylw at gynnydd Cymru a’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yng Nghymru.
Mae Cymru ar flaen y gad o safbwynt datblygu cynaliadwy gan ei bod yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno deddfwriaeth sy’n cyfeirio at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r DU drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyn gadael i Marrakesh, dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd: “Er mai gwlad fechan yw Cymru mae cyfrifoldeb arni i leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
"Rydym yn cydnabod y cyfrifoldeb hwn a byddwn yn parhau i atgyfnerthu ein hymrwymiadau, gan bennu targedau wedi’u rhwymo mewn cyfraith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% erbyn 2050 yn Neddf yr Amgylchedd.
“Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd yr holl drydan a gaiff ei brynu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dod o ffynonellau cwbl adnewyddadwy erbyn y flwyddyn nesaf.
"Mae hyn yn tystio i’n hymrwymiad i ddefnyddio ynni mwy glân yng Nghymru ac i annog pobl eraill i ddilyn ein hesiampl.
“Rwy’n falch iawn fod Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ein galluogi i gyflawni’r Gymru a garem.
"Rwy’n edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd COP22 yn eu creu, a hefyd at dynnu sylw at lwyddiannau Cymru a dysgu o brofiadau gwledydd eraill.
“Mae Cymru’n barod iawn i chwarae ei rhan yng Nghytundeb Paris.”
Wrth groesawu’r cyhoeddiad ynghylch ynni adnewyddadwy ar gyfer cwsmeriaid sector cyhoeddus y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford: “Ar adeg lle y mae ein cyllidebau o dan mwy a mwy o bwysau mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnig cyfle gwych i sector cyhoeddus Cymru wneud pethau’n wahanol, gan gydweithio i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.
“Mae cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd y gwasanaethau y mae’n eu caffael.
"Rwyf felly’n hapus iawn y bydd ei gwsmeriaid ynni yn derbyn trydan cwbl adnewyddadwy. Bydd hanner y trydan hwn yn deillio o Gymru.
“Trwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus gallwn barhau i leihau ein hôl troed carbon ar draws Cymru.”