Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Tachwedd 2016

Angen mesurau llymach i ddiogelu cymunedau rhag banciau yn cau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts, wedi lansio ymosodiad deifiol ar y Gymdeithas Fancio Prydeinig (BBA), gan eu cyhuddo o beidio â rhoi digon o ystyriaeth i ymgynghori â chymunedau yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar sut y gall banciau wasanaethu eu cwsmeriaid a chymunedau.

Mae’r AS, sydd wedi bod yn feirniad lleisiol o benderfyniadau banciau i gau canghennau yn ei hetholaeth, yn dadlau nad yw Adolygiad Mynediad at Fancio yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â methiant olynol banciau stryd fawr i ymgynghori’n ddigonol â chymunedau cyn cau canghennau.

Mae Mrs Saville Roberts hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o sut orau i ddiwallu anghenion bancio cymunedau tlotaf Cymru, gan alw ar statws arbennig ‘banc olaf y stryd fawr’ gael ei ail-osod yn yr adroddiad.

Meddai: “Rwy'n ofni nad yw'r adolygiad hwn yn mynd yn ddigon pell pan ddaw at ddiogelu buddiannau cwsmeriaid a chymunedau sy'n wynebu bygythiad i gau banc ar y stryd fawr.

“Er fy mod yn croesawu argymhellion y BBA mewn perthynas ag asesiadau effaith, sy'n nodi dull gweithredu wedi'i deilwra’n arbennig ar gyfer canghennau unigol, dydw i ddim yn argyhoeddedig ei fod yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r diffyg ymgysylltu â'r gymuned cyn cymryd penderfyniad i gau banc.

“Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn adolygiad gwraidd a changen ar unwaith i mewn i sut y gall ein cymunedau tlotaf gael y mynediad gorau at wasanaethau ariannol, fel bod mesurau digonol ar waith i liniaru effaith cau canghennau yn y dyfodol yn yr ardaloedd hyn.

“Hoffwn hefyd weld newid yn y gyfraith lle mae’r banc olaf yn y dref yn cael ei warchod rhag cau fel nad yw cymunedau yn cael eu hamddifadu o wasanaethau ariannol.

“Dylai’r Gymdeithas Fancio Prydeinig adfer y statws arbennig hwn ac adrodd yn ôl gydag adroddiad llymach; un sydd yn ymwybodol o’r effaith ddinistriol y gall cau banc ei gael ar gymunedau sydd wedi eu difreinio yn barod.”

Rhannu |