Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Y Prif Weinidog yn ymweld â'r pabïau yng Nghastell Caernarfon ar Ddiwrnod y Cadoediad

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymweld ag arddangosfa 'Poppies: Weeping Window' yng Nghastell Caernarfon ar Ddiwrnod y Cadoediad, 11 Tachwedd.

Daeth 'Poppies: Weeping Window', gan yr artist Paul Cummings a'r dylunydd Tom Piper, i Gymru ym mis Hydref fel rhan o daith ar hyd a lled y DU a drefnir gan 14 - 18 NOW, sef rhaglen gelfyddydau'r DU i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r arddangosfa wedi denu bron 100,000 o ymwelwyr dros gyfnod o bedair wythnos.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Eleni, rydyn ni'n nodi can mlynedd ers Brwydr y Somme, a ddaeth i ben ar 18 Tachwedd 1916.  Mae'n addas fod y pabïau, sy'n olygfa hardd a llawn tristwch, yma yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

"Mae gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a gymerodd ran mewn brwydrau drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf - gan gynnwys Brwydr y Somme, gysylltiad arbennig â'r castell. 

"Mae'r amgueddfa yn y castell yn adrodd hanes y gatrawd, gan gynnwys hanes sawl bardd a oedd yn aelodau ohoni. Ymysg y beirdd hyn yr oedd Hedd Wyn, Siegfried Sassoon a David Jones.

"Mae'r miloedd o bobl sydd eisoes wedi ymweld â'r cerflunwaith wedi cael y cyfle i fyfyrio a dysgu am y ffordd y mae digwyddiadau tyngedfennol y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio ar gymunedau Cymru ac wedi cael dylanwad ar y byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw.

"Mae'r digwyddiad wedi dod â'r gymuned ynghyd hefyd. Mae nifer o wirfoddolwyr lleol wedi cymryd rhan a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwaith."

Mae 'Weeping Window' yn un o ddau gerflunwaith a oedd yn rhan o'r gwaith 'Blood Swept Lands and Seas of Red' gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â Historic Royal Palaces. Paul Cummins oedd yn gyfrifol am y pabïau a'r cysyniad gwreiddiol a Tom Piper a ddyluniodd y gosodiad.        

Yn wreiddiol, roedd yr arddangosfa wedi ei osod yn Nhŵr Llundain o fis Awst 2014.

Roedd yn cynnwys 888,246 o babïau, sef un i gofio pob marwolaeth o blith lluoedd arfog Prydain a'r trefedigaethau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 'Weeping Window' yw'r rhaeadr o babïau yn llifo allan ffenestr uchel i lawr at y gwair islaw. Mae'r ail gerflunwaith, sef 'Wave', hefyd yn cael ei arddangos mewn lleoliadau ledled y DU.

Bydd yr arddangosfa yng Nghastell Caernarfon ar agor i'r cyhoedd bob dydd tan 20 Tachwedd.

Mae tocynnau bore a phrynhawn ar gael yn rhad ac am ddim ar safle Eventbrite Cadw ar-lein, a bydd 1,000 ychwanegol o bobl yn cael mynediad i'r castell bob dydd. 
 

Rhannu |