Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Sesiwn ganu mewn tafarn yn sicrhau bod cefnogwyr yn barod i ganu yn ystod penwythnos mawr o chwaraeon

Bydd cefnogwyr rygbi a phêl-droed Cymru yn gallu gloywi eu gwybodaeth o emynau a chaneuon Cymraeg poblogaidd cyn y gemau mawr ar 12 Tachwedd, diolch i sesiwn ganu yn Gymraeg sy’n cael ei chynnal yn nhafarn yr Old Arcade yng Nghaerdydd nos Wener, 11 Tachwedd.

Bydd y gân serch Myfanwy, yr emyn hwyliog Calon Lân ac anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau, ymysg y caneuon enwog a fydd yn cael eu perfformio yn y digwyddiad am ddim, sy’n dechrau am 8.30pm ac sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r sesiwn ganu’n cael ei harwain gan y tiwtor Cymraeg Rhys Griffiths, sydd hefyd yn arwain Bechgyn Bro Taf, y côr meibion o Gaerdydd.  Bydd Rhys yn darparu cyfieithiadau Saesneg a chynghorion ar ynganu Cymraeg.  Darperir taflen ganeuon am ddim hefyd.

I’r rhai a fydd wedi’u hysbrydoli gan y digwyddiad i ddysgu rhagor o Gymraeg, cynhelir Cwrs Blasu Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais o ddydd Iau, 17 Tachwedd. Ewch i http://dysgucymraeg.cymru am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 029 2087 4710.

Meddai Rhys, sy'n gweithio fel tiwtor i Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n darparu cyrsiau Cymraeg yn y brifddinas ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Yn ystod gemau’r Ewros, cafodd cefnogwyr Cymru gymaint o effaith, wrth ganu nerth eu pennau mewn stadia ledled Ffrainc, ac mae cysylltiad hir ac agos rhwng rygbi a cherddoriaeth.

"Bydd y sesiwn ganu mewn tafarn yn gyfle i gefnogwyr loywi eu sgiliau ac i fynd i hwyl ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn benwythnos gwych o chwaraeon.”

Ychwanegodd yr Athro Sioned Davies, Deiliad Cadair y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd:  "Roeddem oll wrth ein boddau gyda llwyddiant Cymru yng ngemau’r Ewros a'r modd y mae'r tîm wedi helpu i godi proffil yr iaith Gymraeg ar draws Ewrop. 

"Rydym yn falch iawn o gael rhoi cymorth i gefnogwyr gyda’r digwyddiad hwn ac edrychwn ymlaen at glywed canu gwych yn y ddwy gêm."

Bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae yn erbyn yr Ariannin am 5.30 pm ddydd Sadwrn 12 Tachwedd yn Stadiwm y Mileniwm a bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.45 pm. 

Rhannu |