Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Pennaeth newydd yr heddlu yn anelu at dorri'r cylch ffyrning o droseddu sy'n mynd o'r tad i'r mab

MAE pennaeth heddlu yn anelu at dorri cylch ffyrnig o droseddu sy’n gweld 65 y cant o fechgyn sydd â’u tadau mewn carchar, yn mynd ymlaen i droseddu eu hunain.

Dywed Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, ei bod hi’n hanfodol i sicrhau bod cysylltiadau teuluol yn cael eu cynnal hyd yn oed pan fo rhiant dan glo.

Fe amcangyfrifir yr effeithir ar fwy na 200,000 o blant yng Nghymru a Lloegr ar unrhyw un adeg trwy fod rhiant yn y carchar.

Etholwyd Mr Jones, cyn-arolygydd gyda’r heddlu, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf Plaid Cymru, gyda mwyafrif o 25,000 ym mis Mai, ac fe addawodd i weithio gyda staff CEM Berwyn, y carchar newydd arfaethedig yn Wrecsam, i sicrhau cefnogaeth briodol i deuluoedd.

Dywedodd: “Gostwng lefelau ail-droseddu ydy un o amcanion fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ac i lwyddo gwneud hynny mae’n rhaid inni mewn partneriaeth i atal troseddu, ac felly darparu adferiad i droseddwyr.

“Un o’r prosiectau sydd ar waith gynnon ni ar hyn o bryd ydy gweithio i ddarparu help a chefnogaeth i blant sydd â’u rhieni yn y carchar.

“Mae ail-gartrefu troseddwyr yn ôl yn eu cymunedau, ac atal aildroseddu wedi eu rhyddhau, yn dibynnu i raddau helaeth ar faint yr help a gynigir i’w plant tra’u bod hwythau yn y carchar.

“Mae hefyd rheswm arall pam ei bod yn bwysig i gefnogi plant pobl sydd yn y carchar gan fod 65 y cant o fechgyn sydd â thad yn y carchar yn mynd ymlaen eu hunain i droseddu.

“Mae plant sydd â rhiant yn y carchar hefyd ddwywaith yn fwy tebygol na phobl ifanc eraill o fod â phroblemau iechyd meddwl.

“Maen nhw hefyd yn llawer llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol ac yn fwy tebygol i gael eu gwahardd o’r ysgol.

“Mae gynnon ni gyfle i dorri’r cylch ffyrnig hwn ac mi rydw i’n gweithio gyda staff y carchar newydd yn Wrecsam, a fydd yn un o’r mwyaf yn Ewrop, i sicrhau cefnogaeth briodol i deuluoedd y carcharorion.

“Mae o fudd i ni i gyd i sicrhau bod y plant yma’n cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw – fe wyddon ni bod plant carcharorion yn fwy tebygol o fynd yn eu blaenau i droseddu eu hunain.

“Yn ogystal â mynd i’r afael â’u hanghenion uniongyrchol, gall ymyriad amserol dorri’r cylch niweidiol hwn. Mae’n well i’r plant, yn well i’r teuluoedd ac yn well i gymdeithas yn ei chyfanrwydd.”

Yn ôl Mr Jones mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys mynd i’r afael â chamddefnydd sylweddau, trais yn y cartref, caethwasiaeth fodern a mwy o dryloywder ac atebolrwydd yn yr heddlu.

Dywedodd Mr Jones hefyd bod y pedwar comisiynydd – dau o’r Blaid a dau Lafur – yn unedig ynglŷn â’r angen i weld cyfiawnder troseddol a heddlua’n cael eu datganoli: “Mae hyn wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan Brif Weinidog Cymru a bellach rydyn ni am symud y materion yma ymlaen,” meddai.

Ymysg heriau ar gyfer y dyfodol roedd mynd i’r afael â throseddau seiber a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant.

Ychwanegodd: “Mae’r troseddau yma sy’n ymddangos ein dyddiau ni wedi’u cysylltu’n amlwg â datblygiadau technolegol ac mae hi’n bwysig i’r heddlu symud gyda’r oes a’r gymdeithas yn hyn o beth, fel bod heddlu’r rheng flaen yn abl i ddelio â materion yn y gymuned, yn hytrach na gorfod dychwelyd i’r orsaf heddlu i gwblhau gwaith papur.”

Rhannu |