Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

'Cynnydd brawychus' yn y defnydd o fanciau bwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi beirniadu’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi i ffigyrau ddangos “cynnydd brawychus” yn y defnydd o fanciau bwyd.

Dengys ffigyrau a ryddhawyd gan Ymddiriedolaeth Trussell – yr elusen sy’n rhedeg rhwydwaith y banciau bwyd yn y DG – rhwng Ebrill a Medi, fod 41,384 o barseli bwyd argyfwng wedi eu rhoi allan yng Nghymru.

Mae hyn yn gynnydd o 234% dros bedair blynedd; dosbarthwyd 12,377 o barseli yn yr un cyfnod yn 2012.

Plant oedd cyfran helaeth o’r rhai gafodd eu bwydo gan y banciau bwyd yng Nghymru.

Daeth ymchwiliad diweddar gan y CU i’r casgliad fod polisïau lles a nawdd cymdeithasol a gyflwynwyd gan lywodraeth San Steffan yn “treisio yn systemaidd” hawliau pobl ag anableddau.

Dywedodd Ms Wood fod ffigyrau Ymddiriedolaeth Trussell yn brawf pellach fod y systemau budd-daliadau yn greulon ac yn gwneud tro gwael â llawer o bobl.

“Mae’r ffigyrau hyn yn gynnydd enbyd yn nifer y bobl nad ydynt yn gallu eu bwydo eu hunain,” meddai AC y Rhondda.

“Pan ddechreuais i godi ymwybyddiaeth o fanciau bwyd chwe blynedd yn ôl, roedd y rhwydwaith yn gyfran fechan iawn o’r hyn y mae yn awr.

"Ers hynny, bu’n rhaid iddo dyfu er mwyn cwrdd â’r galw gan bobl fyddai fel arall yn newynnu.

“Er fy mod yn falch fod y rhwyd ddiogelwch hon ar gael i bobl nad ydynt yn medru fforddio un o hanfodion bywyd, mae’n gondemniad ofnadwy ar lywodraeth San Steffan a’r diwygiadau i fudd-daliadau a wthiwyd drwodd ganddynt.

“O siarad â phobl sy’n gwirfoddoli i’r rhwydwaith, mae’n amlwg fod cosbau budd-daliadau yn gyfrifol am nifer fawr o’r cyfeiriadau maent yn dderbyn.    

“Mae’n iawn i gyn-Weinidogion y DWP swnio’n drugarog unwaith iddynt adael yr adran, ond mae’n rhy hwyr i gael unrhyw wir effaith. 

“Yr hyn sydd ei angen, cyn i fwy o fywydau gael eu difetha, yw trugaredd gan Weinidogion presennol y DWP a chydnabyddiaeth fod eu trefn fudd-daliadau yn greulon a didostur.”  

Rhannu |