Mwy o Newyddion
Siopau Oxfam yng Nghymru yn codi bron i £2 filiwn ar gyfer gwaith sy’n achub bywydau o gwmpas y byd
Eleni mae siopau Oxfam yng Nghymru wedi llwyddo i godi bron i £2 filiwn i gefnogi gwaith yr elusen o gwmpas y byd.
Bydd yr arian yn mynd tuag at brosiectau Oxfam megis cefnogi miloedd o bobl sydd wedi eu dadleoli neu ffoaduriaid mae’r elusen yn gweithio gyda nhw yn Syria, Twrci, Irac a Groeg.
Meddai Val Griffiths, rheolwr ardal siopau Oxfam yn Ne Cymru: “Rydym ni mor ddiolchgar i bobl hael Cymru sy’n rhoi ac yn prynu yn ein siopau.
"Mae’r gefnogaeth yma yn codi arian cwbl hanfodol ar gyfer gwaith Oxfam sy’n helpu pobl sydd mewn amgylchiadau enbyd.
"Diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr penderfynol, a’n rhoddwyr a’n cwsmeriaid mae Oxfam yn gallu darparu dŵr sy’n achub bywydau, bwyd a nwyddau brys i filoedd o bobl o gwmpas y byd.”
Dywed yr elusen bod bron i 60 miliwn o bobl o gwmpas y byd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi erbyn heddiw; mwy nac unrhyw dro ers yr Ail Ryfel Byd.
Meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru: “Rydym yn helpu pobl sy’n cyrraedd yr Eidal wrth ddarparu bwyd, dillad, esgidiau a phecynnau glendid personol yn ogystal â chefnogaeth seicolegol a chyfreithiol.
"Yn Syria, Yr Iorddonen ac yn Lebanon rydym yn darparu dŵr glân, pecynnau glendid a chefnogaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli popeth.
"Gyda £36 gall Oxfam ddarparu dŵr glân a saff i deuluoedd a gyda £100 gallwn ddarparu toiledau a chyfleusterau ymolchi ar gyfer dwsinau o bobl ddigartref.”
Meddai Ms Davies-Warner bod siopau Oxfam angen rhoddion yn fwy nac erioed er mwyn codi arian hanfodol i ariannu’r gwaith i roi terfyn ar dlodi o gwmpas y byd.
“Wrth i’r galw am gymorth barhau, rydym angen gwneud mwy o waith nac erioed o’r blaen, ac allwn ni ddim gwneud hyn heb bobl Cymru.
"Wrth i’r Nadolig nesáu rydym wirioneddol angen mwy o wirfoddolwyr yn ein siopau.
Gallwch gael hwyl, dysgu sgiliau newydd a’n helpu ni i godi arian sy’n helpu pobl sy’n byw mewn tlodi o gwmpas y byd.
"Mae gennym wirfoddolwyr o bob lliw a llun a gallwn drefnu oriau sy’n gweithio i bawb. I ymuno gyda ni, piciwch mewn i’ch siop Oxfam leol heddiw i gael rhagor o fanylion.”