Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Kirsty Williams yn dweud bod athrawon a staff yn ysbrydoliaeth i’r genedl

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn canmol gwaith ysbrydoledig athrawon a staff cymorth, mewn araith yn hwyrach heddiw.

Yng nghynhadledd genedlaethol Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, mae disgwyl iddi ddweud wrth aelodau: "Mae cwrdd ag athrawon, staff cymorth, penaethiaid a disgyblion ar hyd a lled y wlad wir yn fy ysbrydoli.

"Mae’r ffordd rydych yn gwneud eich gwaith bob dydd, a’ch rhesymau dros ddewis y gwaith hwnnw, yn ysbrydoledig. Rydych chi’n adeiladu ein cenedl.

"Rydych chi’n helpu i roi dyfodol disgleiriach i'n dinasyddion ifancaf, fel eu bod yn gallu creu a chyfrannu at wlad ffyniannus, hyderus sydd â diwylliant cyfoethog.

"Ac rydych wedi penderfynu ysgwyddo'r cyfrifoldeb, mentro, a dod yn arweinwyr.

"Diolch am wneud y penderfyniad. Oherwydd gwn nad yw'n hawdd bob tro.

"A dweud y gwir, gwn nad yw fyth yn hawdd. Ond gwn eich bod yn gweithio’n galed bob dydd oherwydd hynny."

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn amlinellu bod diwygio addysg yn nod cenedlaethol i Gymru, ac wrth weithio gydag athrawon, mae hi am gyflwyno amrywiaeth o bolisïau, gan gynnwys cwricwlwm newydd, ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion, lleihau maint dosbarthiadau babanod a diwygio rhaglen hyfforddi athrawon i ddenu mwy o'n pobl ifanc gorau i'r proffesiwn.

Bydd Kirsty Williams yn ychwanegu: "Mae diwygio addysg yn nod cenedlaethol i ni – ac rwy’n golygu ‘ni’ - mae'n nod i ni i gyd.

"Y peth pwysicaf yw ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf.

"Rwy'n ffyddiog y gallwn gyrraedd y safonau hynny drwy weithio gyda’n gilydd.

"Mae eich cefnogi chi - ein penaethiaid a’n harweinwyr - yn allweddol, os ydym am lwyddo i godi safonau a gwireddu ein huchelgeisiau."

Rhannu |