Mwy o Newyddion
Siân Lewis ar Daith Awdur nesaf ymgyrch boblogaidd @LlyfrDaFabBooks
Yn ystod mis Tachwedd bydd Taith Awdur nesaf ymgyrch boblogaidd @LlyfrDaFabBooks yn ymweld ag ysgolion Sir Benfro yng nghwmni’r awdur adnabyddus Siân Lewis.
Bydd y cynllun, a weinyddir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn gyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol.
Siân Lewis oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi a gyhoeddir gan Rily.
Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant, gyda dros 200 o lyfrau i blant a phobl ifanc.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod disgyblion o saith o ysgolion, sef ysgolion cynradd Glancleddau, Casmael, Casblaidd, Gelli Aur, Hafan y Môr, Arberth a Brynconin, yn mynychu gweithdai dan arweiniad Siân Lewis rhwng 15 a 18 Tachwedd.
Dywedodd Eirian James, Cadeirydd panel beirniaid Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og, am y gyfrol fuddugol: “Mae’r straeon yn cael eu hadrodd o’r newydd mewn iaith goeth, raenus ac yn hawdd eu darllen, gyda’r testun yn llifo’n rhwydd.
"Mae’n gyfrol sy’n addas i’w darllen yn uchel i blentyn bach gan riant, a hefyd i’w darllen gan y plentyn ei hun pan fydd ychydig yn hŷn.”
Enillodd Siân Wobr Tir na n-Og am y tro cyntaf yn 2007.
Meddai: “Mae’n hyfryd iawn cael gwobr am lyfr y ces i gymaint o flas ar ei sgrifennu yng nghwmni’r arlunydd Valériane Leblond, gyda chymorth Gordon Jones, y golygydd, Elgan Griffiths, y dylunydd, a Lynda Tunnicliffe o Gyhoeddiadau Rily.
"Hwrê – a diolch yn fawr i chi i gyd. Mae gen i res o silffoedd llyfrau yn sownd wrth wal fy stafell fyw. Fan’ny – yn nythu rhwng y llyfrau – yw’r lle gorau posib i’r tlws.”
“Bydd hwn yn gyfle gwych i ysgogi’r disgyblion i fwynhau darllen, ac i annog pob un ohonynt i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol wedi iddynt gyfarfod a chael eu hysbrydoli gan feistres ar ei chrefft,” meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.
Y gobaith yw y bydd y daith hon yn annog y disgyblion i gael blas ar ddarllen, ac i brynu llyfrau Cymraeg.
Dilynwch y daith ar @LlyfrDaFabBooks.