Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Shan Morgan yw Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi mai Shan Morgan fydd Ysgrifennydd Parhaol nesaf Llywodraeth Cymru yn dilyn cystadleuaeth agored.

Yr Ysgrifennydd Parhaol sy’n arwain y gwasanaeth sifil yng Nghymru, ac mae’n gyfrifol am reoli cyllideb Llywodraeth Cymru sy’n £15 biliwn y flwyddyn, ac arwain tua 5,000 o staff sy’n gweithio i’r sefydliad.

Ar hyn o bryd, Shan yw Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU yn UKRep ym Mrwsel.

Yn ei sylwadau ar y penodiad, dywedodd y Prif Weinidog: “Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi penodiad Shan Morgan fel Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru.

"Mae’n swydd hollbwysig yn y gwaith o gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol ar ran pobl Cymru.

“Mae cael yr arweinyddiaeth iawn ar frig y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru yn hollbwysig, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda hi ar yr agenda strategol hirdymor a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen.

“Er mai mynd i’r afael â’r materion pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl yw prif ffocws  y llywodraeth hon o hyd, bydd profiad helaeth Shan yn y Gwasanaeth Llysgenhadol ac ym Mrwsel hefyd yn gaffaeliad hanfodol wrth i ni bwyso i gael y fargen orau bosib i Gymru yn ystod ac ar ôl ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.”

Roedd y broses recriwtio ar gyfer rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn cynnwys cyfweliad panel gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth Gwasanaeth Sifil y DU, Syr Jeremy Heywood, ac uwch gynrychiolwyr o’r llywodraeth a thu hwnt.

Gwnaed y penodiad gan y Prif Weinidog mewn cytundeb â Syr Jeremy, a ddywedodd: “Hoffwn longyfarch Shan ar gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

“Mae gan Shan gyfoeth o brofiad hynod berthnasol o’r UE, ac yn rhyngwladol ac ar draws y llywodraeth, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi fel rhan o uwch dîm rheoli Gwasanaeth Sifil y DU.”

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Shan Morgan: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar adeg allweddol yn y gwaith o weithredu’r Rhaglen Lywodraethu 5 mlynedd newydd – “Symud Cymru Ymlaen”.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Prif Weinidog, y Cabinet, swyddogion a rhanddeiliaid ehangach i gyflawni’r ymrwymiadau uchelgeisiol yn y Rhaglen ac i fynd i’r afael â’r heriau o ran hyrwyddo ffyniant a chyfle i bawb yng Nghymru.

“Mae hi wedi bod yn fraint gweithio i’r Gwasanaeth Llysgenhadol mewn pob math o wahanol rolau a chael cyfrannu at ddatblygu perthynas y DU â’r UE dros y blynyddoedd.

"Er fy mod i’n drist i adael cymaint o ffrindiau a chydweithwyr da ym Mrwsel, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn fy swydd newydd.”

Bydd Ms Morgan yn dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi talu teyrnged i’r Ysgrifennydd Parhaol presennol, Syr Derek Jones, wrth iddo adael y swydd.

Meddai: “Hoffwn ddiolch i Derek am ei gyfraniad eithriadol i wasanaeth cyhoeddus dros gyfnod o bedwar degawd, yn fwyaf arbennig yn ei rôl fel Ysgrifennydd Parhaol.

"Roedd ei arweinyddiaeth yn hanfodol, gan ein helpu i greu gwasanaeth sifil sydd â gallu, capasiti ac angerdd. Dymunaf yn dda iddo i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Syr Jeremy: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Derek am ei gyfraniad aruthrol dros y pedair blynedd ddiwethaf a hoffwn ddymuno’r gorau iddo wrth i’w gyfnod yn y swydd ddod i ben.”
 

Rhannu |