Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Arbenigwyr mewn rheoli heintiau yn gofyn i bobl beidio ag ymweld â chleifion ar Ward Teifi, Ysbyty Glangwili

Ar hyn o bryd, mae nifer o gleifion yn profi symptomau sy’n gysylltiedig â Gastroenteritis, ac o ganlyniad i hyn mae Ward Teifi yn yr ysbyty ar gau dros dro i ymwelwyr.

Mae mesurau rheoli haint ar waith i leihau’r risg o haint, a gofynnir i ymwelwyr gadw draw am nawr.

Dywed Sharon Daniel, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio (Atal a Rheoli Heintiaul) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae salwch megis dolur rhydd a chwydu yn gallu pasio o un person i’r llall yn hawdd iawn ac rydym wedi cael gwybod bod Gastroenteritis hefyd ar led yn y gymuned.

“Rwyf yn annog pobl sy’n teimlo’n sâl neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r symptomau hyn i beidio ag ymweld â chleifion mewn ysbyty ar hyn o bryd am fod firysau’n medru bod yn ddifrifol i gleifion sâl a bregus.”  

Mae symptomau Gastroenteritis yn cynnwys cyfog, dolur rhydd a chwydu.

Os ydych yn profi’r symptomau hyn mae’n bwysig eich bod yn golchi a sychu eich dwylo’n drwyadl ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn trin bwyd er mwyn atal ei basio ymlaen i eraill.

Am gyngor pellach ar atal lledaenu heintiau, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/75450

Rhannu |