Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2016

Gwaith Catrin Finch a Seckou Keita wedi ei samplu ar albwm newydd Robbie Williams

Caiff gwaith y delynores Gymreig Catrin Finch a Seckou Keita'r chwaraewr kora o Senegal ei samplu ar drac ar albwm newydd Robbie Williams, The Heavy Entertainment Show (Fersiwn Deluxe) a gafodd ei ryddhau dydd Gwener ddiwethaf, ar Columbia Records.

Mae’r trac, When You Know yn gân serch a ysgrifennwyd gan Robbie fel anrheg Sant Ffolant i’w wraig Ayda Field, ac mae’n ymddangos ar fersiwn Deluxe The Heavy Entertainment Show. Mae’n edrych yn debygol y bydd yr albwm ar frig y siartiau albwm y dydd Gwener hwn.

Dywed Catrin a Seckou: "Rydym yn gyffrous tu hwnt bod Robbie wedi samplu ein gwaith ar When You Know - mae’n teimlo’n swrrealaidd iawn!

"Mae’n wych i wybod ein bod wedi ysbrydoli pobl gyda’n cerddoriaeth, ac mae’n gân serch hyfryd - Robbie ar ei orau.”

Mae When You Know yn cynnwys sampl o recordiad Catrin Finch a Seckou Keita o Future Strings, a ysgrifennwyd gan Seckou Keita.

Ymddengys y trac gwreiddiol ar Clychau Dibon (Astar Artes / Mwldan) albwm llwyddiannus cyntaf y deuawd, a gafodd ei ryddhau yn 2013 gan ddenu cymeradwyaeth mawr.

Mae’n debyg bod Guy Chambers, a bu’n gweithio gyda Robbie ar yr albwm, wedi clywed gwaith Catrin a Seckou am y tro cyntaf pan gafodd trac o’u halbwm Clychau Dibon ei chwarae ar Desert Island Discs BBC Radio 4.

The Heavy Entertainment Show yw’r 11eg albwm stiwdio gan Robbie Williams, sydd wedi gwerthu dros 70 miliwn albwm yn ystod ei yrfa unigol ac wedi ennill mwy o Wobrau BRIT nag unrhyw artist arall mewn hanes.

Caiff yr albwm ei ryddhau ar Columbia Records. Mae Robbie wedi gweithio gyda Guy Chambers, ei gydweithredwr ysgrifennu caneuon hir dymor, ar draciau ar gyfer yr albwm hwn, yn ogystal â Johnny McDaid, Rufus Wainwright, Jimmy Carr, John Grant, Brandon Flowers, Ed Sheeran a Stuart Price.

Cyhoeddodd Robbie’n ddiweddar y byddai’n chwarae dyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o daith The Heavy Entertainment Show – bydd yn chwarae Stadiwm Principality ar 21 Mehefin 2017.

Lluniau: Catrin Fich a Seckou Keita yn perfformio (llun Gareth Griffiths) a chlawr albwm newydd Robbie Williams

Rhannu |