Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2016

Sylfaenydd Y Lolfa yn cyhoeddi dyddiaduron personol

Mae Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa a chyd-sylfaenydd y cylchgrawn Lol,  yn datgelu’r cyfan mewn dyddiaduron personol a ysgrifenwyd dros yr hanner canrif diwethaf a gyhoeddir am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon

Cyfrol o ddyddiaduron ‘ecsentrig a rhy onest’  a gadwodd Robat Gruffudd, ers y chwedegau yw Lolian.

Mae’n cynnwys cymysgedd o straeon doniol, sylwadau pryfoclyd ac atgofion am helyntion y byd cyhoeddi a chyfarfodydd ag awduron ac eraill yng Nghymru ac mewn bariau ar y cyfandir.

Fel ymgyrchydd iaith o'r dyddiau cynnar, mae yna sôn am helyntion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, Cymuned, Dyfodol i'r Iaith - ac ymgyrch i wrthod siarad Saesneg.

Sonir am brotest Pont Trefechan a’r cais i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.

Yn y dyddiaduron mae ymateb i ddigwyddiadau a darlun ‘answyddogol’ a gwreiddiol o’r profiad o fyw yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf ynghyd â sylwadau cyffredinol, trwm â’r ysgafn.

Ceir cip hefyd ar ei gefndir Almaenaidd Iddewig a chyfeiriad at erlid y teulu yn yr Almaen, testun llyfr llwyddiannus iawn ei frawd Heini, Yr Erlid, a enillodd Llyfr y Flwyddyn.

"Mae yma straeon doniol am nifer fawr o bobl, a dyna rwy'n ofni: be fyddan nhw'n dweud pan welan nhw eu henwau mewn print?

"Mae ffurf y dyddiadur yn gofyn am onestrwydd," meddai Robat. "Os nad y'ch chi'n onest, beth yw'r pwynt?

"Ond buasen i'n hoffi petai'n bosib i fi ddianc o'r wlad am fis neu ddau wedi cyhoeddi'r llyfr!"

Ond meddai Robat Gruffudd nad oedd am weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn wreiddiol.

"Dyddiaduron personol yw'r rhain, yr ydw i wedi eu cadw mwyn fy nifyrrwch fy hun," eglurodd Robat.

"Wnes i ddim bwriadu i neb arall eu gweld nhw. Yn anffodus, ces i bwl o wendid wedi croesi oed yr addewid, ac yn awr mae'n rhaid i fi wynebu'r canlyniadau."

Cyhoeddir y dyddiaduron cyn hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa flwyddyn nesaf ac mae’r llyfr yn sôn am rai o helyntion y byd cyhoeddi.

Ond mae Robat am bwysleisio mai nad hunangofiant a geir yma na hanes y wasg fel y cyfryw.

"Byddwn yn dathlu pen-blwydd Y Lolfa yn y man. Gwyliwch y wasg am fanylion un parti anferth a rhes o ddigwyddiadau eraill!" meddai Robat.

Cynhelir noson i ddathlu lansio’r nos Wener y 25ain o Dachwedd am 8 o’r gloch yn y Llew Du yn Nhalybont. Yn ogystal ag adloniant cerddorol bydd yr academydd Simon Brooks yn holi’r awdur.

"Ond bydda i’n diflannu yn syth wedyn," meddai Robat, "cyn i bobl gael cyfle i ddarllen y llyfr!"

Mae Lolian gan Robat Gruffudd (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |