Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2016

Opera gymunedol yn chwilio am gyfranwyr ar Ynys Môn

Mae’r gwaith o ailadeiladu un o lysoedd canoloesol Tywysogion Gwynedd, Llys Rhosyr yn Ynys Môn, yn mynd rhagddo yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd.

Y flwyddyn nesaf bydd gwahoddiad i bobl Ynys Môn gymryd rhan mewn opera newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan y tywysog Llywelyn Fawr.

I glywed mwy am project hwn, mae cyfres o weithdai wedi’u trefnu ar gyfer pobl leol ar draws yr ynys o ddydd Mawrth 8 Tachwedd i ddydd Gwener 12 Tachwedd. (I archebu lle, cysylltwch â Ceri Williams yn Oriel Ynys Môn ar 01248 752189.)

Mae’r project cymunedol mawr, a drefnir gan Amgueddfa Cymru, yn annog corau lleol, ysgolion, grwpiau oedolion a chymdeithasau hanesyddol i ymuno ag unawdwyr proffesiynol, actorion ac offerynwyr i berfformio’r opera gyffrous hon am y tro cyntaf erioed ger safle gwreiddiol Llys Rhosyr ar Ynys Môn.

Bydd yr opera yn mynd ar daith o gwmpas Cymru yn 2017 gyda’r perfformiad olaf yn safle Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi i’r gwaith gael ei gwblhau.

Bydd opera Gymraeg a Saesneg yn cael eu creu a bydd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y gymuned leol dros y flwyddyn nesaf - o drafodaethau a gweithdai treftadaeth i ddosbarthiadau theatr, sesiynau opera, gweithdai gwisgoedd a hyd yn oed gweithgareddau ar gefn ceffyl.

Dywedodd Owain Rhys, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfranogiad Cymunedol Amgueddfa Cymru: “Bwriad y project hwn yw ymgysylltu â’r gymuned leol yn Ynys Môn a’u hannog i gymryd rhan yn y project cyffrous hwn. Mae Llys Llywelyn yn cael ei ail-greu yn Sain Ffagan, ac rydym yn awyddus i rannu ein dealltwriaeth newydd gyffrous o fywyd Llys Rhosyr.

"Wrth berfformio ger y safle gwreiddiol yn Niwbwrch, bydd cyfle i’r cyfranwyr gamu i esgidiau Llywelyn ei hun; mae ein opera gymunedol yn ffordd wych o wneud hyn.”

Dywedodd y cyfarwyddwr a’r libretydd, Peter Morgan Barnes, sy’n arwain y project: “Bydd sesiynau am ddim yr hydref yn rhoi blas ar hwyl y broses ymarfer. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o opera na cherddoriaeth – rydym am i bawb gymryd rhan. Mae’n argoeli i fod yn brofiad gwych; cyfle i ddarganfod a chymryd rhan mewn opera!”

Mae’r project hwn i ail-greu’r neuadd fawr a adeiladwyd tuag OC 1200 ymhlith y projectau archaeolegol mwyaf cyffrous a heriol a welwyd yng Nghymru.

Bydd y muriau cerrig naw metr o daldra a’r to gwellt a phren anferth yn creu cyfleoedd am brentisiaethau a lleoliadau hyfforddi gyda’r Uuned Adeiladau Hanesyddol. Wedi cwblhau’r gwaith, bydd modd croesawu ysgolion a grwpiau cymuned o Fôn i Fynwy i aros dros nos yn yr Amgueddfa.

Mae’r gwaith yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar broject ailddatblygu mwyaf yr Amgueddfa erioed.

Hwyluswyd hyn gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 dyfarnodd HLF eu grant mwyaf erioed yng Nghymru i Sain Ffagan er mwyn helpu i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Rhannu |