Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2016

Cronfa ariannol yn cynnig hwb i artistiaid

Mae cyfanswm o 38 o artistiaid a bandiau talentog o Gymru gyfan wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am fwrsari cerddoriaeth sy’n werth cyfanswm o £50,000.

Mae’r artistiaid newydd ac addawol o Gymru wedi derbyn hyd at £2,000 yr un er mwyn eu helpu i lunio eu gyrfaoedd, datblygu eu cerddoriaeth a chefnogi gweithgareddau a fydd yn eu helpu i gyflawni eu potensial.

Derbyniodd y gronfa Lansio, a grëwyd fel rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd yng Nghymru dros 200 o geisiadau drwy Gymru, y nifer uchaf o ymgeiswyr ers ei ddechrau yn 2014. Dewiswyd panel a oedd yn cynnwys 15 o arbenigwyr o’r diwydiant er mwyn helpu dewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys.

Agorodd ceisiadau ar gyfer y gronfa Lansio ym mis Medi i artistiaid a bandiau sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ysgrifennu, cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth gyfoes boblogaidd a gwreiddiol.

Roedd y gronfa hefyd ar agor i geisiadau gan gynllun ‘Gorwelion 12’, sef artistiaid a ddewiswyd yn gynharach yn flwyddyn i elwa o raglen gefnogaeth er mwyn helpu datblygu eu gyrfaoedd.

Mae’r nifer o geisiadau wedi parhau i godi bob blwyddyn - cynnydd o 41% mewn ceisiadau yn 2015 a chynnydd o 34% yn 2016. Eleni, ymgeisiodd y 38 o artistiaid llwyddiannus am y cyllid er mwyn helpu i gefnogi amrywiaeth o syniadad ? o brynu cyfarpar recordio a llogi lle ar gyfer ymarfer at weithio gyda chynhyrchwyr talentog a recordio yn broffesiynol.

O’r gymysgfa amrywiol o geisiadau, mane nifer fawr cael eu cefnogi yn eu gwaith creadigol gyda grantiau tuag at amser yn y stiwdio, ffotograffiaeth a gwaith celf wedi’u comisiynu yn arbennig, hyrwyddo rhyddhau recordiau, cyfarpar, cynhyrchu fideos a chostau thrafnidiaeth a theithio.

Mae Tibet, band indi o Gaerdydd yn dilyn blwyddyn gofiadwy o gigiau byw a chefnogaeth nifer o droellwyr recordiau Radio 1 gyda’u taith fel prif artistiaid yn y DU wedi cael ei chadarnhau yr hydref hwn. Bydd Cronfa Lansio yn eu cefnogi nhw gyda’u taith sydd ar ddod.

Mae’r ymgeisydd llwyddiannus, cantores-gyfansoddwraig addawol, Cally Rhodes o Borth ger Aberystwyth, wedi cael ychydig o fisoedd llwyddiannus yn dilyn rhyddhau ei EP gyntaf a ddaeth i’r 10 Uchaf yn siart Canwr-gyfansoddwr y DU iTunes. Bydd y Gronfa Lansio yn caniatáu iddi hi ddilyn ei llwyddiant diweddar a threulio amser yn y stiwdio yn recordio ei EP nesaf.

Bydd Estrons, band roc gwirioneddol amgen sydd wedi cael eu darlledu yn eang ar y radio drwy’r DU yn defnyddio cyllid Lansio er mwyn hyrwyddo rhyddhau eu record nesaf gydag ymgyrch hyrwyddol a fydd yn helpu i gadarnhau eu henw da amrywiol ac unigryw ymhellach gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU.

Mae Rhodri Daniel, gitarydd Estrons wedi rhoi ei ymateb i’r newyddion da gan ddweud: “Mae’n anrhydedd go iawn a syndod i gael ein cynnwys ar restr eleni o’r bandiau gwych a ddewiswyd i dderbyn cyllid gan Lansio.

“Roeddem yn ddigon lwcus i gael ein dewis ddwy flynedd yn ôl am gymorth i gyllido amser yn y stiwdio a fideo cerddoriaeth, gwnaethom y gorau o bob ceiniog ac roedd y canlyniadau yn sicr yn helpu i arwain y ffordd at lwyddiant hyd yma.

“Rydym wedi dod â thîm ffantastig o bobl ynghyd, ac ar ôl blwyddyn lawn o deithio a recordio, rydym ni ar gyffordd hollbwysig yn ein gyrfaoedd. Bydd y cyllid a’r gefnogaeth ychwanegol yn sicr yn ein helpu i gynyddu ein presenoldeb a chyrraedd cynulleidfa ehangach.”

Dywedodd Betsan Moses, Pennaeth Cyfathrebu, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Trwy’r Gronfa Lansio mae hi wedi bod yn bosib i ni gynorthwyo bandiau ac artistiaid talentog i barhau gyda’u gyrfaoedd drwy ddarparu’r cyllid angenrheidiol sydd ei angen arnynt.

"Mae amrywiaeth y ceisiadau wir wedi creu argraff – sy’n destament i’r sefyllfa amrywiol a bywiog sydd yng Nghymru nawr.

"Ry’n ni’n edrych mlaen at weld y gwir gwahaniaeth mae’r Gronfa Lansio yn ei wneud i’r artistiaid yma dros y flwyddyn sydd i ddod.”

Mae’r 38 o artistiaid llwyddiannus yn cynnwys:

  • Afro Cluster, Caerdydd, £1,300 er mwyn gorffen eu halbwm gydag Amser yn y Stiwdio yn Giant Wafer Studios, Canolbarth Cymru.
  • Anelog, Dinbych, £670 tuag at gostau cyfarpar recordio yn y cartref.
  • Argrph, Caerfyrddin, £500 ar gyfer amser yn y stiwdio gyda Llyr Parri yn Llanrwst.
  • Baby Queens, Caerdydd, £1200 ar gyfer cynhyrchiad fideo ar gyfer 3ydd sengl o’r albwm cyntaf sydd newydd gael ei ryddhau.
  • Band Pres Llareggub, Bangor, £2000 ar gyfer recordio yn Orange Sound Recording Studios, Penmaenmawr, gyda Russ Hayes, creu’r prif recordiad yn Hafod.
  • Billy Bibby & The Wry Smiles, Llandudno, £1500 ar gyfer recordio yn Orange Sound Recording Studios, Penmaenmawr.
  • Breathe in the Silence, Maesteg, cyfraniad o £1000 tuag at recordio yn Longwave Studios.
  • Bryony Sier, Troedyrhiw, Merthyr, £1500 tuag at ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gydag asiantaeth ‘Badge of Friendship’.
  • Cadno, Caerdydd, £1000 tuag at recordio EP 4 trac cyntaf.
  • Cally Rhodes, Borth, Ceredigion, cyfraniad o £1,400 tuag at recordio yn Toy Studios Caerdydd.
  • Cestyll,  Caernarfon, £800 tuag at offer.
  • Chroma, Aberpennar, Y Rhondda, £1800 ar gyfer recordio yn Giant Wafer Studios gyda Soundquake, creu’r prif recordiad gyda Mei Gwynedd.
  • Chupa Cabra, Bwcle, Sir y Fflint, £1500 tuag at amser yn y stiwdio, costau teithio a chysylltiadau cyhoeddus tuag at ryddhau eu EP cyntaf.
  • Endaf, Caernarfon, Gwynedd, cyfraniad o £1000 tuag at gyfarpar recordio yn y cartref.
  • Estrons, Caerdydd, cyfraniad o £1500 tuag at gysylltiadau cyhoeddus ar gyfer eu hail EP.
  • Fleur De Lys, Ynys Môn, cyfraniad o £1000 tuag at amser yn y stiwdio gyda Rich Roberts, yn Ferlas Studios.
  • Florence Black, Caerdydd, cyfraniad o £1250 tuag at amser yn y stiwdio.
  • Gintis, Y Rhyl, £1440 tuag at recordio gyda Bill Ryder Jones (Coral/Domino Records) yn Stiwdios Mwnci, Canolbarth Cymru.
  • Hannah Grace, Caerdydd, £1400 tuag at gostau teithio.
  • Himalayas, Caerdydd, £2000 tuag at gostau fan.
  • Hipicat, Caerdydd, £600 tuag at recordio yn Fieldgate Studios.
  • Hyll, Caerdydd, £1000 tuag at recordio gyda Mei Gwynedd, ac ar gyfer cyfarpar bregus ar gyfer drymiau.
  • Into the Ark, Y Coed Duon, £1000 tuag at ddigwyddiadau hyrwyddol drwy’r DU.
  • Iwan Huws, Caerdydd, £1200 tuag at recordio ym Mwnci a cherddorion sesiwn ar brosiect unigol.
  • Jodie Marie, Arberth, Sir Benfro, £2000, tuag at recordio ei thrydydd albwm yn StudioOwz, Sir Benfro.
  • John Adams, Hirwaun, Aberdâr, £700, tuag at gynhyrchu fideo cerddoriaeth proffesiynol ar gyfer EP newydd.
  • Kidsmoke, Wrecsam, £1550 ar gyfer recordio EP newydd yn Orange Sound Studios, a gwaith celf ar gyfer EP gan arlunwyr lleol Mike Payne.
  • LSN audio, Llanllechid, Gwynedd, cyfraniad o £1000 tuag at gyfarpar cynhyrchu.
  • Mace, Caerdydd, £2000 tuag at stiwdio, fideo a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer eu record nesaf.
  • Monico Blonde, Caerdydd, £2000 tuag at recordio yn Vada Studios Gethin Pearson.
  • Palomino Party, Caerdydd, cyfraniad o £1100 tuag at ymgyrch gysylltiadau cyhoeddus Lost Agency.
  • Reuel Elijah, Caerdydd, cyfraniad o £1000 tuag at stiwdio, fideo a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y record nesaf.
  • Sonny Double 1, Caerdydd, £2000 tuag at amser yn y stiwdio, cynhyrchu fideo cerddoriaeth a dosbarthu’r caneuon ar-lein.
  • The Sandinistas, Caerffili, £1000 tuag at amser yn y stiwdio.
  • Tibet, Caerdydd, £1289 tuag at gostau teithio a chyfarpar ar gyfer y cartref.
  • Upbeat Sneakers, Merthyr, £2000 tuag at gostau fan.
  • Violet Skies, Gas-gwent, £1725 tuag at ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus.
  • Ysgol Sul, Caerfyrddin, £1,075 tuag at recordio gyda Llyr Pari yn Stiwdio Melin y Coed.

Llun: Estrons

Rhannu |