Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2016

Carl Clowes yn beirniadu Llywodraeth Cymru am 'anghysondeb datblygu cymunedol’

Wrth annerch cynulleidfa yng Nghaernarfon nos Iau, bydd Carl Clowes yn adleisio ei bryderon, fel y’i mynegwyd yn ei hunangofiant, Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia – a Fi, am anghysondeb polisïau datblygu cymunedol yng Nghymru.

Amlygwyd hyn orau y llynedd wrth i Gyngor Gwynedd ac Arolygaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru wrthod un tyrbin gwynt gymunedol ar gyfer pentref Llanaelhaearn, un o`r ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Golygodd hyn golli ugain o swyddi a £3m o incwm i un o ardaloedd Cymreiciaf a hynny er gwaethaf cynllun busnes oedd wedi cael sêl bendith Prifysgol Bangor a phob corff cynrychioladol yn yr ardal.

Yn gynharach, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisïau oedd yn gefnogol i gynlluniau o`r fath.

Yn Rhagfyr 2013 mewn cylchlythyr i bob Awdurdod, dywedodd Carl Sargeant y Gweinidog: "In Energy Wales, the Welsh Government has set in place an ambitious programme… a key priority is making sure that communities benefit from energy infrastructure developments…...this objective underpins support for local communities to develop renewable energy.... and to reinvest the benefits locally."

Aeth y llythyr ymlaen: "In assessing planning applications for renewable energy projects, the economic and job creation benefits associated with any development should be fully factored into the decision making process."

Meddai Carl Clowes: "Gyda dyfodiad Deddf Llesiant a Cenedlaethau`r Dyfodol 2015 a’u pwyslais ar gymunedau hyfyw, mae`r anghysonderau rhwng bolisi a`r realiti ar lawr gwlad yn gwbl annerbyniol.

"Mae`n fwy bwysig nac erioed bod y sefyllfa bresennol yn cael ei unioni fel nad yw ein cymunedau Cymreig yn cael eu tanseilio yn bellach."

Bydd Carl Clowes yn trafod ei bryderon o flaen cynulleidfa ym Mhalas Print yng Nghaernarfon am 7 o’r gloch, nos Iau y 10fed o Dachwedd.

Mae Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia a Fi gan Carl Clowes (£12.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |