Mwy o Newyddion
Enwi Clive Jones yn gadeirydd newydd bwrdd National Theatre Wales
Mae National Theatre Wales wedi cyhoeddi mai Clive Jones fydd cadeirydd nesaf ei fwrdd, yn dilyn ymadawiad ei gadeirydd cyntaf, Phil George, a ddaeth yn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ebrill.
Cafodd Clive Jones ei eni yn Llanfrechfa, ger Pont-y-pŵl. Fe’i magwyd yng nghymoedd Ebwy a Sirhywi a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Newbridge cyn cwblhau ei radd yn y London School of Economics. Ers hynny, mae wedi magu profiad helaeth mewn gyrfa 39 mlynedd ym maes darlledu, a hynny yma yng Nghymru ac yn Llundain.
Roedd Clive yn Brif Weithredwr Newyddion a Rhanbarthau ITV tan 2007. Cyn hynny, roedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Rhwydwaith ITV, Central Television a London News Network, yn gadeirydd GMTV a Phrif Swyddog Gweithredol Carlton Television Group. Mae'n parhau â’i gysylltiad ag ITV fel dirprwy gadeirydd cronfa bensiwn y cwmni.
Fel ymgynghorydd bu'n gadeirydd Adolygiad Cymheiriaid y BFI/Cyngor Ffilm y DU ar gyfer Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a goruchwyliodd y gwaith o ddigidoli, oedd werth miliynau o bunnoedd, ystafelloedd newyddion ITV a Channel Four ar gyfer ITN.
Yn fwy diweddar, mae Clive wedi gwasanaethu fel cadeirydd ITV Cymru, Cronfa ED Cymru ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac roedd yn gyfarwyddwr anweithredol bwrdd S4C a S4C Masnachol am bum mlynedd.
Nid dyma fydd profiad cyntaf Clive o weithio gyda theatrau; bu'n gwasanaethu am 12 mlynedd ar fwrdd Theatr Young Vic, gam gamu i lawr yn gynharach eleni.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Gymdeithas Deledu Frenhinol iddo ym 1995 a’i Medal Aur, gwobr uchaf y Gymdeithas, yn 2007. Yn yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddo CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i ddarlledu.
Heddiw, mae Clive yn un o gyfarwyddwyr y cwmni teledu a chynhyrchu newydd yn Abertawe, Provenance Pictures, yn gadeirydd Pro Cam, cwmni llogi cyfleusterau teledu mwyaf Prydain, Energetic Communciations, y cwmni marchnata a digwyddiadau o Efrog Newydd ac Ymddiriedolaeth Runnymede, melin drafod amrywiaeth fwyaf blaenllaw Prydain.
Mae Clive yn briod â Vikki Heywood CBE, cyn reolwr gyfarwyddwr y Royal Shakespeare Company, sydd bellach yn gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer y Celfyddydau, ac maent yn byw yn Llundain a Dinbych y Pysgod.
Dywedodd Clive: "Rwyf wrth fy modd yn ymuno â National Theatre Wales, yr wyf wedi ei ystyried yn hir fel un o'r cwmnïau theatr mwyaf cyffrous ac arloesol yn y DU.
"Mae adeiladu enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn amser mor fyr yn glod i’r arweinyddiaeth artistig ysbrydoledig ac ymrwymiad y bwrdd.
"Mae'n wych i fod yn ymuno â National Theatre Wales ar adeg mor gyffrous."
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr National Theatre Wales, Kully Thiarai: "Rwyf wrth fy modd y bydd Clive yn ymuno â ni fel ein Cadeirydd newydd.
"Mae'n dod â thoreth anhygoel o brofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef a'r bwrdd i sicrhau bod National Theatre Wales yn parhau i fod yn gwmni uchelgeisiol ac yn un artistig gyffrous."