Mwy o Newyddion
Ramsey yn gwisgo siwmper Nadolig i gefnogi Apêl Achub y Plant
Gyda’r paratoadau ar gyfer Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant eisoes “ar y gweill” mae chwaraewr canol cae Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, yn awyddus i ddangos ei gefnogaeth i’r apêl.
Ymunodd Ramsey gyda’i gyd-chwaraewyr o dîm Arsenal ac Arsène Wenger i gymryd rhan yn llun swyddogol cyntaf y sgwad mewn siwmperi Nadolig, a hynny er mwyn helpu i godi arian tuag at Ddiwrnod Siwmperi Nadolig Achub y Plant a gynhelir eleni ar Ddydd Gwener 16 Rhagfyr.
Mae Sefydliad Arsenal wedi bod yn cefnogi Achub y Plant fel partner rhyngwladol ers 2011 ac wedi codi dros £2 miliwn i gefnogi gwaith pwysig yr elusen.
Yn ddiweddar mae’r clwb wedi cyd-weithio i adeiladu meysydd pêl-droed ar gyfer plant bregus yn Irac ac Indonesia, yn ogystal â chyfrannu £500,000 yng Ngêm Arwyr Arsenal i adeiladu caeau pêl-droed yng Ngwlad Yr Iorddonen a Somalia. Eleni mae Clwb Pêl-droed Arsenal hefyd wedi creu amrywiaeth o ddillad gwlân Nadoligaidd, gyda chyfraniad o 20% o’r gwerthiant (RRP) yn mynd tuag at Achub y Plant. Maent ar gael i’w prynu o ArsenalDirect.com.
Mae Ramsey a thîm Arsenal yn ymuno â llu o enwau eraill sy’n cefnogi Diwrnod Siwmperi Nadolig eleni gan gynnwys James Corden, Myleene Klass, Anna Friel, Jon Snow, Freddie Flintoff, Jamie Redknapp ac Ashley Jensen.
Mae’r gantores, actores, y gyflwynwraig a’r farchogwraig Shan Cothi hefyd yn cefnogi’r elusen eleni gan alw ar y cyhoedd i fynd ati i weu sgwariau a fydd yn mynd tuag at weu siwmper Nadolig ar gyfer ei cheffyl, Caio!
Drwy wisgo siwmper ddwl, cofrestru ar https://christmasjumperday.org/, a chyfrannu £2 (neu £1 os ydych yn yr ysgol) i Achub y Plant, mae’r nod yn un ddifrifol sef i helpu’r elusen i helpu achub bywydau plant a rhoi'r dyfodol disgleiriaf iddynt.
Eleni hefyd, fel prif noddwr Diwrnod Siwmperi Nadolig bydd Papa John yn cyfrannu 50c o werthiant bob pitsa XXL yn ogystal ag o werthiant eu pitsa Nadoligaidd unigryw.
Bydd hyn yn digwydd rhwng 21ain Tachwedd a 2il Ionawr.
Bydd Papa John hefyd yn mynd i ysbryd y digwyddiad drwy greu pitsas anferth allan o siwmperi.
I ddathlu’r diwrnod hefyd bydd WHSmith yn gwerthu dau dedi arbennig o’r enw Benji a Bruno a fydd yn gwisgo siwmperi Nadolig arbennig gyda £1 o bob gwerthiant yn mynd tuag at yr elusen.
Meddai Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Bydd yr holl arian a gesglir yn sgil Diwrnod Siwmper Nadolig yn mynd tuag at helpu'r plant mwyaf bregus.
"Gall hyn olygu rhoi dillad cynnes i blentyn sy’n byw mewn gwersyll i ffoaduriaid neu becyn bwyd i’r teulu cyfan neu ein helpu i greu llecyn diogel i roi cyfle i blant fod yn blant unwaith eto.
"Bydd yr arian hefyd yn ein helpu i gyfrannu gofal iechyd, addysg, amddiffyniad a bwyd i’r miliynau o blant yn fyd-eang sy’n mynd heb y pethau sylfaenol hyn yn ddyddiol.
"Bydd cyfran o’r arian hefyd yn mynd tuag at helpu plant sy’n profi effeithiau tlodi yma yng Nghymru.
"Rwy’n gwybod y bydd pobl Cymru yn mynd ati i gofleidio Diwrnod Siwmper Nadolig eto eleni - mae’n ffordd hwyliog a dwl o ddatrys problemau difrifol!”