Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2016

Lansio Bardd ar y Bêl gan Llion Jones

Nerth ei ben daeth Gareth Bale i'n gyrru tua'r gorwel #GorauChwaraeCydChwarae

Heb os, dyma drydariad mwyaf poblogaidd Llion Jones yng nghanol ymgyrch ryfeddol Ewro 2016, wrth i’r prifardd a chefnogwr pêl-droed brwd ymateb i gol euraidd Gareth Bale yng Nghyprus fis Medi 2015.

Cyrhaeddodd y trydariad hwn bron i 14,000 o gyfrifon a chael ei ad drydar dros gan gwaith. A pharhau i drydar wnaeth Llion Jones gydol yr ymgyrch, ar odl a chynghanedd.

Mae Bardd ar y bêl yn gyfrol unigryw o drydargerddi sy’n crynhoi haf anghredadwy 2016 a phob cam o'r daith i rownd derfynol Ewro 2016 yn Lyon, Ffrainc.

Dyma gyfrol weledol ddeniadol sy’n cynnwys lluniau lliw ffotograffydd swyddogol Cymdeithas Bel-droed Cymru David Rawcliffe / Propaganda, yn ogystal â rhai lluniau o lyfrgell y Gymdeithas Bêl-droed.

Gyda’r lluniau gorfoleddus hyn ochr yn ochr â’r trydargerddi a cherddi, hawdd yw ail fyw’r wefr a’r angerdd deimlwyd yn ystod y bencampwriaeth.

Dyma @Llion Jones ar ei orau yn cofnodi’r oes aur newydd yn hanes Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru.

“Ar ôl profi degawdau o foddi ger y lan, roedd y teimlad o gael hwylio ar frig y don yn un gwirioneddol wefreiddiol,” meddai.

“Mae cerddi a thrydargerddi’r casgliad yn dod o ferw’r teimlad yna.

"Bron nad oeddwn i’n teimlo weithiau eu bod yn codi o’r dorf ei hun.

"Mae hi gymaint yn haws dod o hyd i eiriau’r gân mewn cwmni sydd ar yr un donfedd.”

A chwmni arall yn sicr ar yr un donfedd yw Is-Hyfforddwr Tim Pel-droed Cymru, ac yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, mae Osian Roberts yn nodi pa mor braf yw gweld grym y gair ac apel y bêl yn cyd-fyw’n llawen.

Ychwanega Osian: “Mae’r arwyddair ‘Gorau chwarae cyd-chwarae’ ar grysau tîm pêl-droed Cymru ers 1951, ond go brin y bu erioed yn fwy addas nag yn ystod ein hymgyrch yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

"Roedd pob un gân, baner a thrydariad yn rhan o don fawr o falchder yn llwyddiant y tîm cenedlaethol, ac roedd pob un ohonom yn tynnu ar yr egni hwnnw.”

Bydd lansiad Bardd ar y bêl yng nghanolfan Pontio ym Mangor, nos Lun yr 21ain o Dachwedd am 19.30.

Caiff Llion Jones ei holi gan un arall sydd yn feistr ar eiriau ym myd y bêl, y sylwebydd pel-droed Nic Parry.

Yn ymuno â nhw bydd Geraint Lovgreen, y Prifardd Ifor ap Glyn, Emlyn Gomer ac Ifan Prys.

  • Bardd ar y bêl : Llion Jones; Cyhoeddiadau Barddas, £6.95 (Clawr meddal). Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016
  • Mae’r Prifardd Llion Jones yn un o gefnogwyr brwd tîm pêl-droed Dinas Bangor, yn ogystal â’r tîm cenedlaethol.
  • Profodd @LlionJ lwyddiant ysgubol gyda’i gyfrol Trydar Mewn Trawiadau gan ennill Gwobr Barn y Bobl yn Nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013.
  • Bu hefyd yn darparu trydariadau ar gyfer rhaglen Allez Cymru (Cwmni Rondo) a ddarlledwyd yn yr wythnosau yn arwain at bencampwriaeth Ewro 2016. Cafwyd ymateb brwd i’w gyfraniad i’r rhaglen hon.
  • Cyhoeddwyd un o gerddi’r gyfrol ar ffurf poster yn ystod yr haf, sef ‘Ewro 2016’ y cywydd adroddodd yr actor Rhys Ifans ar S4C yn ystod y rowndiau terfynol.
  • Enillodd Llion Jones Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch yn 2000.
Rhannu |