Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2016

Cynnig i newid y system ardystio marwolaethau a chyflwyno archwilwyr meddygol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynnig i newid y system ardystio marwolaethau a chyflwyno archwilwyr meddygol yng Nghymru.

Y cynnig yw bod archwilydd meddygol annibynnol yn ystyried pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr – ac eithrio’r rhai sy’n destun ymchwiliad gan grwner. Gallai’r system newydd hon fod ar waith o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Bydd yr archwilydd meddygol yn edrych ar nodiadau meddygol yr unigolyn sydd wedi marw i sicrhau bod achos ei farwolaeth yn cael ei nodi’n gywir.

Bydd hefyd yn cysylltu â pherthnasau’r sawl sydd wedi marw i drafod hyn.

Bydd y newidiadau’n rhoi sicrwydd i deuluoedd sydd wedi colli rhywun.

Byddant yn gallu cael rhywfaint o gysur o wybod bod person annibynnol yn edrych ar achos y farwolaeth er mwyn sicrhau bod popeth yn ôl y disgwyl. 

Daw’r penderfyniad i newid y system bresennol yn sgil yr Ymchwiliad i Harold Shipman ac adolygiadau eraill megis Adroddiad Francis i Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford.

Ar ôl ei diwygio, bydd y system yn fodd i atal camweddau, a hyrwyddo dysgu a gwella.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am ymatebion i’r syniad o godi ffi am wasanaeth yr archwilydd meddygol.

Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud o ran union swm y ffi honno, ac mae’r opsiynau ynghylch sut y bydd yn cael ei thalu yn parhau i gael eu hystyried.  
 

Rhannu |