Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2016

'Gohiriwch y penderfyniad' – galwad Cymdeithas yr Iaith

Wrth i Gabinet Cyngor Ceredigion drafod dyfodol ysgolion Dyffryn Aeron mewn cyfarfod Cabinet yfory mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr i ohirio eu penderfyniad nes bydd cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Addysg y Cynulliad wythnos nesaf am ysgolion gweledig.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: “Dyma rai o gymunedau Cymreiciaf Ceredigion, a chymunedau sydd am gadw ysgolion yn eu pentrefi.

"Pam felly bod rhuthro i wneud penderfyniad i gau pedair ysgol er mwyn creu ysgol ardal ar safle anaddas?

"Er budd cyfleustra gweinyddol nid addysg plant na chymunedau fyddai penderfyniad o'r fath.

“Bydd Kirsty Williams yn gwneud cyhoeddiad wythnos nesaf am ysgolion pentref, mae un o bwyllgorau craffu'r Cyngor ei hun yn cydnabod hynny.

"Felly rydyn ni'n gofyn i aelodau'r Cabinet ohirio trafodaeth ar yr ysgolion nes eu cyfarfod nesaf er mwyn clywed beth sydd gan yr Ysgrifennydd Addysg i'w ddweud.”

Llun: Ffred Ffransis

Rhannu |