Mwy o Newyddion
Buddsoddiad o hyd at £80m ar gyfer cam nesaf Cyflymu Cymru
Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James yn cyhoeddi heddiw y bydd hyd at £80m yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun band eang cyflym iawn nesaf, i helpu i sicrhau bod pob eiddo yng Nghymru wedi’i gysylltu â band eang cyflym a dibynadwy erbyn 2020.
Y cynllun hwn fydd yn dilyn y prosiect Cyflymu Cymru sydd eisoes wedi dod â band eang cyflym iawn i bron 614,000 eiddo yng Nghymru a rhagwelir y bydd 100,000 eiddo arall wedi’u cysylltu erbyn cau’r prosiect yn 2017.
Er 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £162m o arian cyhoeddus ar fand eang yng Nghymru, a bydd yn buddsoddi £62m arall yn y flwyddyn olaf. Bwriedir buddsoddi £12.9m ychwanegol o’i chyfran o enillion y contract* er mwyn ehangu Cyflymu Cymru flwyddyn nesaf.
Er mwyn cysylltu’r ychydig eiddo hynny nad yw Cyflymu Cymru neu fenter fasnachol wedi llwyddo i’w cyrraedd, caiff arolwg o’r Farchnad Agored ei chynnal ym mis Tachwedd i weld, fesul eiddo, ble yn union y mae band eang cyflym iawn ar gael.
Defnyddir yr wybodaeth i lywio’r cynllun nesaf a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2018.
Bydd gan y cynllun o bosib £80m o arian cyhoeddus gan gynnwys:
- mae £20m o gyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo dros y pedair blynedd nesaf
- £20m o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, o gael cymeradwyaeth WEFO.
- £37m o’i chyfran o’r enillion o ganlyniad i gysylltu â band eang cyflym iawn*
- £2m sydd wedi’i ymrwymo ond heb ei dalu gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiect band eang cyflym iawn newydd.
Bydd y buddsoddiad yn ei dro yn sbarduno’r sector preifat i roi cyllid cyfatebol er mwyn mynd â band eang i’r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru erbyn 2020.
Mae’r Gweinidog yn ymweld â Puffin Produce yn Sir Benfro i weld yr effaith y mae band eang ffeibr cyflym yn ei chael ar eu busnes.
Mae Puffin Produce yn cyflogi 125 o bobl yn eu safle yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Hwlffordd. Mae ganddo drosiant o £16m ac yn cyflenwi archfarchnadoedd mawr fel Tesco, Sainsbury’s ac M&S.
Cyn yr ymweliad, dywedodd Julie James: “Mae Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’r cynllun ymhell o fod wedi gorffen, gyda mwy o eiddo’n cael ei gysylltu bob dydd.
"Mae’n brosiect anodd ac uchelgeisiol, ond mae’n mynd â’r maen i’r wal.
“Mae bron 614,000 eiddo bellach wedi’u cysylltu â band eang cyflym iawn, diolch i’r prosiect. I fod yn glir, ni fyddai gan y safleoedd hynny fand eang o gwbl oni bai am y cynllun.
“Mae’n wych gweld yr effaith y mae band eang cyflymach yn ei chael ar lawr gwlad ac mae Puffin Produce yn Hwlffordd yn enghraifft dda o hyn.
"Sir Benfro yw un o’r siroedd yng Nghymru lle nad oedd gan unrhyw gwmni masnachol fwriad i ddarparu band eang – ond nawr, diolch i Cyflymu Cymru, mae 50,326 eiddo wedi’u cysylltu.
“Wrth gwrs bod rhagor eto i’w wneud. Ac ein hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yw cynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob cartref a busnes yng Nghymru.
"Dyma pam rydyn ni’n ystyried buddsoddi hyd at £80m yn y cam nesaf i fynd â band eang i’r rhannau hynny sy’n anodd eu cyrraedd.
“Mae’r pecyn ariannu hen hefyd yn cynnwys cyllid Ewropeaidd. Er mai megis dechrau’r broses ymgeisio ydyn ni, rwy’n hyderus y daw’r arian, o gael cymeradwyaeth WEFO, oherwydd gwarant Trysorlys yr UE i anrhydeddu bidiau’r UE fydd wedi’u cymeradwyo cyn gadael yr UE.
“Bydd yr arolwg fydd yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf yn ein helpu i benderfynu ar y camau nesaf er mwyn gallu dechrau’r cymal nesaf ym mis Ionawr 2018.”
Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce ac aelod o fwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddaugleddau: “Mae band eang cyflym wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n busnes.
“Mae nifer o’r peiriannau mwyaf blaengar yn ein ffatri yn cael eu monitro a’u gwasanaethu o bell gan y cwmnïau a’u hadeiladodd, fel robotiaid o Japan a pheirannau pecynnu blaengar o Ddenmarc.
"Diolch i fand eang cyflym, rydym wedi gallu cael eu cymorth di-fwlch sy’n golygu bod y peiriannau’n gallu gweithio trwy’r amser a sicrhau bod ein gallu cyflenwi archebion ein cwsmeriaid bob dydd.
“Mae camau breision wedi’u cymryd gan ein tîm maes sydd bellach yn gallu mesur maint pob cae unigol gan ddefnyddio dronau, a rhyngweithio â meddalwedd ar-lein er mwyn gallu cynnig amcangyfrifon manylach o gynhyrchiant caeau ac olrhain symudiadau cnydau.
“Mae hefyd wedi cynyddu cynhyrchiant ein staff sy’n gweithio oddi ar y safle.”
Mae 93% o ardal Ardal Menter Dyfrffordd y Ddaugleddau bellach wedi’i gysylltu gan Cyflymu Cymru, ac mae rhagor o waith yn mynd rhagddo.
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd bod y cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau am ddwy flynedd arall gyda buddsoddiad o £1.5m ar y cyd â Cyflymu Cymru ac â’r prosiect fydd yn ei ddilyn, gydag arian cyfatebol i’w estyn am ddwy flynedd arall ar ôl 2018.