Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2016

Diffyg buddsoddi yn ffilmiau Cymraeg, dros 99% o'r arian yn mynd i ffilmiau Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n hallt gan fudiad iaith am fuddsoddi ddim ond £40,000 yn ffilmiau Cymraeg er 2011 tra'n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg.

Yn 2014, sefydlwyd cyllideb 'Buddsoddi yn y Cyfryngau' gwerth £30 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd gan Weinidogion Cymru.

Ond mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai'r Llywodraeth mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi yn ffilmiau Cymraeg: "Yn 2013/14, darparwyd £40,000 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Cymraeg a £452,009 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg.

"Yn 2014/15, darparwyd £3,852,784 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg ac yn 2015/16 darparwyd £2,704,516 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Saesneg."

Mae ffilmiau, megis 'Take Down' a 'Don't Knock Twice', wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru ers i'r gyllideb gwerth £30 miliwn gael ei sefydlu.  

Mewn llythyr at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gronfa, Ken Skates AC, meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae'n fater o gryn siomedigaeth bod ein Llywodraeth ni, sy'n rhannol gyfrifol am hybu'r Gymraeg, yn gallu ffafrio'r Saesneg i'r fath raddau, yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o'r safon uchaf yn y Gymraeg.  

"Mae buddsoddiad o £7 miliwn dros 3 blynedd yn y Saesneg yn sylweddol iawn, ac mae'r £40,000 yn wir yn slap yn y wyneb i'r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol.

"Ni ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.

"Gofynnwn ni i chi ddatgan nad ydych chi'n fodlon â'r ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni'r sefyllfa yma dros y blynyddoedd nesaf.

Awgrymwn eich bod yn clustnodi o leiaf 50% o'r gyllideb 'Buddsoddi yn y Cyfryngau', fel rhan o gynllun ar wahân, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith.

"Dim ond un enghraifft ymhlith nifer o'r anffafriaeth i'r Gymraeg o fewn cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yw hon, a galwn arnoch chi i ystyried eich holl gyllideb a chymryd camau pendant i fuddsoddi mwy ym mhrosiectau sy'n cael effaith positif ar y Gymraeg."  

Rhannu |