Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2016

Diwygio system drwyddedu gwialenni pysgota

Mae llu o newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r system drwyddedu gwialenni pysgota yng Nghymru a Lloger.

Bydd pysgotwyr iau ar eu hennill o drwydded rad ac am ddim ar gyfer gwialenni, yn y gobaith y bydd hyn yn denu pobl newydd i’r gamp.

Cyflwynir trwydded rolio i wialenni a fydd yn para 365 niwrnod o ddiwrnod ei phrynu, yn hytrach nag ar gyfer cyfnod penodedig rhwng mis Ebrill a mis Mawrth.

A dim ond un drwydded fydd ei hangen ar bysgotwyr cerpyn a sbesimen ar gyfer defnyddio’r tair gwialen, yn hytrach na’r ddwy drwydded y gofynnir amdanynt ar hyn o bryd.  

Mae dewisiadau mwy hyblyg yn cael eu cyflwyno ar gyfer pysgotwyr achlysurol, gyda’r gallu i ddiweddaru o drwydded 1 neu 8 diwrnod i drwydded lawn, gan dynnu pris y drwydded fyrrach i ffwrdd.

Mae hyn er mwyn annog mwy o bobl i ddal ati i bysgota ar ôl iddynt roi cynnig arni, a’i gwneud hi’n rhatach i bysgotwyr sy’n prynu sawl trwydded fyrdymor ar hyn o bryd.

Fel rhan o’r newidiadau, gwelir cynnydd bychan mewn rhai prisiau safonol – er enghraifft, codwyd pris trwydded ar gyfer pysgota bras o £27 i £30. Dyma’r tro cyntaf i bris trwydded gwialen godi ers 2010.

Gwrandawodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ystod eang o bysgotwyr, partneriaid a sefydliadau oedd â diddordeb, er mwyn sicrhau fod y prisiau a’r cynnyrch newydd yn cwrdd ag anghenion cwsmeriaid.

Bydd pob un o’r newidiadau hyn yn dod yn weithredol ym mis Mawrth 2017, a thrwyddedau newydd yn ddilys o 1 Ebrill.

Meddai Peter Gough, Prif Ymgynghorydd Pysgodfeydd ar gyfer CNC: “Mae pysgota’n gamp ardderchog y gall pobl o bob oedran a phob gallu fod yn rhan ohoni, ac mae’n gyfle i fynd allan i fwynhau ein hamgylchedd rhagorol yng Nghymru.

“Ein gobaith yw y bydd y newidiadau i’r system drwyddedu gwialenni’n ei gwneud hi’n haws i’r rheiny sydd eisoes ar dân dros y gamp, ond hefyd i ddenu pobl ifanc i roi cynnig arni a dysgu sgiliau newydd.

“Yn ogystal â bod yn ddiddordeb a fwynheir gan bobl leol, mae pysgota hefyd yn denu llawer iawn o ymwelwyr ac mae’n bwysig i’r economi yng Nghymru. Bydd pob arian a godir gan werthiant trwyddedau gwialenni yng Nghymru’n cael ei ddefnyddio i wella ein pysgodfeydd a diogelu dyfodol y gamp yng Nghymru.”

Meddai Gweinidog y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Leslie Griffiths: “Mae’r proc yma a roddwyd i drwyddedau gwialenni’n newyddion gwych i bysgotwyr Cymru gyfan.

"Gyda 100% o gost y drwydded yn cael ei dychwelyd i reoli’r pysgodfeydd, bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gamp yng Nghymru, yn symleiddio’r system ac yn annog mwy o bobl ifanc i ymwneud â physgota yng Nghymru.

“Roeddem ni’n awyddus i weld trwydded iau newydd rhad ac am ddim yn cael ei chyflwyno er mwyn dileu rhwystr sylweddol oedd yn atal pobl ifanc rhag ystyried dod yn bysgotwyr hamdden.

"Rydym ni wrth ein bodd fod CNC yn cytuno â’r dull hwn o weithredu, a’u bod wedi gwrando ar ofidiau pysgotwyr.” 

Rhannu |