Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2016

Dysgu Cymraeg drwy wylio Y Gwyll

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cychwyn partneriaeth gyffrous gyda S4C trwy fynd â’r Gwyll i mewn i ddosbarthiadau Cymraeg ledled Cymru.

Mae gwers wedi’i chreu ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd Lefel Uwch i gyd-fynd â thrydedd gyfres y ddrama dditectif, sy’n cael ei darlledu bob nos Sul am 9.00pm ar S4C, ac yn cael ei ail-darlledu bob nos Wener am 10.30pm.

Pwrpas y wers - a grëwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac sydd ar gael drwy’r ddolen http://dysgucymraeg.cymru/newyddion/adnoddau-y-gwyll - yw ysbrydoli dysgwyr i drafod, dysgu geirfa newydd a mwynhau’r gyfres dditectif ar yr un pryd.

Mae’r wers yn cynnwys clipiau sain a fideo, ymarferion a nodiadau ar gyfer tiwtoriaid ac mae ar gael i holl ddarparwyr y Ganolfan, sy’n cynnal cyrsiau Cymraeg ar ei rhan ym mhob cwr o’r wlad.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan, a luniodd y wers: “Nod y wers yw cyflwyno rhywbeth cyffrous a chyfoes i’r dysgwyr yn y dosbarthiadau.

"Rydym yn cydweithio’n agos gydag S4C, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu’r bartneriaeth ac arddangos y cyfoeth o adnoddau a rhaglenni sydd ar gael ar y Sianel.

"Mae’n andodd amhrisiadwy i rai sy’n dysgu’r Gymraeg.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gyda ni’r gallu i gefnogi’r tiwtoriaid drwy gynnig adnoddau parod i’w cynorthwyo yn y dosbarth.

"Rydym yn bwriadu cyflwyno cyfres o wersi cyfoes fel hyn yn flynyddol, gan ganolbwyntio ar annog y dysgwyr i drafod yr hyn sy’n digwydd yn y Gymru gyfoes.”

Mae’r Gwyll, sy’n cael ei darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg, wedi’i gwerthu ar draws y byd i wledydd megis Norwy, Y Ffindir, Gwlad Belg a Ffrainc

 Mae cyfres cyntaf Y Gwyll - y fersiwn Saesneg – yn cael ei dangos yn yr UDA ers 30 Mehefin, mewn 13 o farchnadoedd teledu sy'n cynnwys dinasoedd Kansas, Seattle, Oregon, Milwaukee, Buffalo Efrog Newydd a Boston.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd plant a dysgwyr S4C: “Mae S4C yn falch o gydweithio'n agos gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael mynediad i raglen ddeinamig a chyffrous.

"Mae ein gwasanaeth i ddysgwyr, Dal Ati, yn adnodd pwysig iawn gan S4C ar gyfer dysgwyr sydd eisoes wedi meistroli ychydig o Gymraeg, ac rydym ni'n hynod o falch o gefnogi'r adnoddau mae'r Ganolfan yn eu datblygu.”

Rhannu |