Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2016

Wynebau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Bydd enwau a rhai lluniau o bron i 11,000 Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Mawr yn cael ei taflunio ar sgrin yng Nghaernarfon ar Ddiwrnod y Cadoediad – 11 Tachwedd.

Wynebau’r Rhyfel Mawr yw'r digwyddiad diweddaraf  gan Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i nodi maint y colledion a ddioddefwyd gan un catrawd yn ystod gwrthdaro 1914-18.

Gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, arddangosir enwau y rhai a gollwyd ar sgrin fawr ar Y Maes, ger Castell Caernarfon, ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund S Bailey, Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Eric M Jones  a Maer Tref Frenhinol Caernarfon, y Cynghorydd Brenda Owen. 

Bydd Band Adran y Frenhines yn cyfeilio i’r tafluniad, a chynrychiolwyr o'r Fyddin Brydeinig, gan gynnwys uned arlwyo'r Ghurkah hefyd yn bresennol.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn sbarduno teuluoedd i anfon lluniau o aelodau o'r teulu a fu farw yn y rhyfel.

"Mae enwau’r rhai a syrthiodd wedi eu cynnwys ar gofebion rhyfel mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, ond rydym yn credu y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i ddod â'r bechgyn at ei gilydd i ddangos yr effaith  arswydus ar un catrawd," meddai Shirley Williams, Rheolwr Datblygu yr Amgueddfa.

"Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn ychwanegu at y casgliad o ffotograffau rydym eisoes wedi eu casglu o'r milwyr a fu farw, ac sydd eisoes yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa ar ganmlwyddiant marwolaeth y milwr hwnnw.

"Ar hyn o bryd, mae gennym, am y tro cyntaf amser,  tua 16% o luniau y rhai na ddaeth adref.

"Byddem wrth ein bodd dod â’r holl fechgyn yn ôl at ei gilydd unwaith eto mewn lluniau os yn bosibl - ac efallai taflunio eu hwynebau ar waliau Castell Caernarfon yn 2018 i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel."

Ychwanegodd y Cynghorydd Eric M Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd: "Mae hyn yn arbennig o addas eleni wrth i ni nodi rhai o frwydrau mawr y rhyfel yn ddiweddar -  Coed Mametz a'r Somme lle collodd cymaint eu bywydau."

Gofynnir i berthnasau sydd â  ffotograffau  ddod â nhw neu eu hanfon i'r Amgueddfa yng Nghastell Caernarfon (rwfmuseum1@btconnect.com) lle y gellir eu sganio, cymryd copi, neu gadw’r gwreiddiol yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.

Mae Wynebau’r Rhyfel Mawr yn un o nifer o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau a wneir gan yr Amgueddfa i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 4pm ar Y Maes, Caernarfon nos Wener, 11 Tachwedd, 2016 – Diwrnod y Cadoediad. 

Rhannu |