Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2016

Sut y gwnaeth ymweld â chofeb rhyfel argraff ar un Sgowt o ogledd Cymru

Mae’r bachgen 17 oed Morgan Taylor wedi tyfu i fyny gyda’r Sgowtiaid, gan iddo ymuno â’r grŵp am y tro cyntaf ag yntau ond yn 11 oed.

Bu’n ddigon ffodus o fod wedi cael profiadau cyffrous a diddorol o bob math yn ystod y cyfnod hwn, ond ni chafodd unrhyw un ohonynt gymaint o effaith arno â’i fenter ddiweddaraf.

Mae Morgan yn aelod o Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, maent yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect dwy flynedd yn archwilio rôl Sgowtiaid ac arweinyddion Sgowtiaid gogledd Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Morgan yn cydnabod yn barod nad oedd y prosiect yn apelio yn y lle cyntaf: “Roeddwn yn gwybod am y gwahanol ddigwyddiadau i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r pen-blwyddi pwysig yn gysylltiedig ag ef, ond doeddwn i ddim o ddifrif yn argyhoeddedig ei fod mor berthnasol i’n bywydau ni heddiw.

"Roedd dros gan mlynedd yn ôl, ac mae cymaint wedi newid dros y degawdau.”

Buan y newidiodd ei agwedd er hynny, pan ddarganfu’r grŵp gysylltiad rhwng Sgowtiaid a’r rhyfel,

“Roedd John Fox Russell yn Sgowt ar Ynys Môn yng ngrŵp Wolf Patrol, ac yn ystod y rhyfel derbyniodd Groes Victoria a’r Groes Filwrol, rhai o’r anrhydeddau uchaf posib ar gyfer ei wasanaeth.

Cyn gynted ag y sylweddolon ni mai fy oedran i oedd e pan ymunodd â’r fyddin – bachgen ifanc 17 oed – allen ni ddim credu’r peth.

"A dweud y gwir cododd ofn arnaf i feddwl y gallai fod wedi bod yn fi.”

Dechreuodd Morgan a’i gyd Sgowtiaid hel gwybodaeth o archifau a llyfrgelloedd lleol fel rhan o brosiect £22,000 a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ond er bod darllen y storïau wedi rhoi peth cyd-destun iddynt am wirioneddau’r rhyfel, prin y gallai unrhyw beth eu paratoi ar gyfer eu hymweliad â meysydd y gad.

Rhan fechan yn unig o’r prosiect fel cyfanwaith oedd y daith dramor, ond cafodd gryn effaith ar lawer ohonynt, gan gynnwys Morgan.

“Fel rhan o’n hymchwil trefnwyd ymweliad ag Ypres yng Ngwlad Belg i weld y cofebion rhyfel eiconig yno a rhai o leoliadau mwyaf erchyll y rhyfel.

"Yma y daeth gwir effaith y rhyfel yn fyw imi a’r Sgowtiaid eraill.

“Roedd gweld rhes ar ôl rhes o feddau ag enwau milwyr o wledydd gwahanol arnynt, rhai ohonynt yn iau nac yr ydw i yn awr, yn brofiad digon diflas, ac yn sydyn iawn roedd yn teimlo’n real iawn.

Tra ein bod yno llwyddasom i ddod o hyd i fedd John Edwards, oedd yn Sgowt Feistr ein grŵp Sgowtiaid ym Mhorthaethwy pan ddechreuodd y rhyfel yn 1914.

"Roedd gweld ei fedd yn gwneud yr holl beth yn real iawn – un diwrnod roedd yn sgowtio, y diwrnod nesaf roedd yn ymladd yn y ffosydd.

“Gwaeth fyth oedd y rhesi o feddau heb unrhyw wybodaeth arnynt, gan nad oedd enwau cymaint o filwyr yn hysbys oherwydd na ddaethpwyd erioed o hyd i’w cyrff.

“Mae’n anghyfforddus ei weld, ond ar yr un pryd rwyf yn falch iawn ein bod wedi mynd a chael y profiad gan y gwnaeth imi feddwl a theimlo’n wahanol am y Rhyfel Byd Cyntaf.

"O hyn ymlaen ni fydd yn teimlo fel rhyw ddigwyddiad pell yn ôl a gofiwn bob blwyddyn – rwyf yn teimlo’n fwy cysylltiedig ag ef ac yn teimlo’n wirioneddol ddiolchgar i’r dynion a’r bechgyn hynny a ymladdodd ac a fu farw i’n hamddiffyn ni heddiw.

"Byddaf wastad yn cofio’r diolch hwnnw, gan imi fod yno ac yn rhan o’r hanes hwnnw am ennyd.”

Caiff prosiect Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy ei ariannu trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Er mwyn cael gwybod sut allai CDL helpu newid eich bywyd, ewch i http://hlf.org.uk

Rhannu |