Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2016

Mynd ar drywydd beicwyr modur anghyfreithlon

Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu De Cymru wedi dal 22 o bobl yn defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon yng nghoedwigoedd de Cymru, a hynny mewn un diwrnod yn unig.

Rhoddodd y swyddogion ymgyrch ar waith ledled ardaloedd Llanwynno, Pen y Cymoedd a Choedwig Afan – sef ardaloedd drwg am feicio modur anghyfreithlon.

Rhoddwyd rhybudd ffurfiol i’r 22 unigolyn a ddaliwyd ac fe’u cynghorwyd ynghylch peryglon beicio modur yn anghyfreithlon yn y goedwig. Pobl leol oedd y rhan fwyaf o’r rhain, ond roedd un grŵp o feicwyr wedi teithio cyn belled â Birmingham.

Os cânt eu dal eto o fewn y flwyddyn a chael ail rybudd, efallai y bydd eu beiciau modur yn cael eu cymryd oddi arnynt yn barhaol.

Mae beicio modur anghyfreithlon yn broblem gynyddol yng Nghymoedd De Cymru, gan arwain at niweidio llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau beicio mynydd, yn ogystal â pheryglu diogelwch pobl eraill yn y goedwig.

Mae’n drosedd gyrru beiciau modur neu feiciau cwad ar dir ac eithrio ar briffyrdd cyhoeddus heb ganiatâd y perchennog. Mae hyn yn cynnwys coedwigoedd preifat a thir ym meddiant y sector cyhoeddus.

Meddai James Roseblade, rheolwr ardal lleol yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae beicio modur anghyfreithlon yn beryglus i gerddwyr, marchogwyr, seiclwyr a phobl eraill sy’n mwynhau ymweld â’u coedwigoedd lleol.

“Gall arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i’r amgylchedd, gan niweidio gwreiddiau coed a tharfu ar gynefinoedd sensitif ein bywyd gwyllt.

“Mewn cyfnod o doriadau yn y sector cyhoeddus mae hyn yn dreth ar ein harian, gan ddifrodi giatiau, ffensys a meysydd parcio’n aml. Dyma arian y gellid ei wario’n gwella safleoedd i gymunedau lleol.

“Pan gânt eu defnyddio’n gyfrifol mae ein coedwigoedd yn lleoedd gwych, ac nid ydym eisiau caniatáu i gamau di-hid criw bach o bobl eu difetha i bawb arall nac i genedlaethau’r dyfodol.”

Fe ddeilliodd yr ymgyrch undydd o 12 mis o gydweithio rhwng CNC, Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr ymgyrch ei hariannu gan y Ddeddf Enillion Troseddau – arian a atafaelwyd, a gynhyrchwyd trwy gyfrwng gweithgareddau troseddol.

Mae adborth cynnar gan ein partneriaid sy’n gweithio yn y goedwig yn addawol, gyda llawer llai o feicio modur anghyfreithlon yn cael ei gofnodi yn yr ardaloedd dan sylw.

Mae cydymgyrchoedd mawr eraill ar y gweill ac mae ymgyrchoedd lleol llai’n cael eu rhoi ar waith ar draws cymoedd de Cymru yn rheolaidd.

Rhannu |