Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2016

Croesawu gwelliannau heol ar gyffordd Dolgellau

Mae AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas, wedi croesawi’r newyddion bod y gwelliannau arfaethedig i gyffordd Tywyn yr A470/A493 yn Nolgellau wedi cael ei gadarnhau.

Dywedodd Simon Thomas, Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Mae hyn yn newyddion gwych i bobl Dwyfor Meirionnydd sydd wedi gorfod delio gyda nifer o achosion a digwyddiadau echryslon ar heol yr A470 dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae Aelod y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi sicrhau bod y gwaith am ddechrau yn Ionawr 2017 gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Mis Mawrth.

“Mae’n hanfodol bwysig nad yw’r gwelliannau, sydd mawr eu hangen, yn effeithio’n andwyol ar dagfeydd traffig o gwmpas Dolgellau a bod y gwaith yn cael ei gwblhau’n effeithlon o fewn yr amser gosodedig.

“Byddaf yn parhau i gwthio Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau angenrheidiol i heolydd y Canolbarth a’r Gorllewin.

"Hoffwn sicrhau etholwyr Dwyfor Meirionnydd, a etholodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad, fy mod am barhau i gefnogi eu safbwyntiau a delio gyda’u materion.”

Llun: Simon Thomas

Rhannu |