Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2016

Cadeirydd brwd ac S4C yn taro'r tant cywir

Mae cerdd dant yn unigryw i Gymru - a bydd S4C yn dathlu’r traddodiad gwerin rhyfeddol hwn gyda darllediadau gydol y dydd o’r ŵyl gerdd dant ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd a gynhelir y tro hwn ym Mhlas Heli, Pwllheli.

Gallwch wylio Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016 ar S4C am 2.00, 8.30 a 11.30, neu dilynwch y digwyddiad yn fyw drwy'r dydd ar wefan s4c.cymru.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Llŷn ac Eifionydd, Ken Hughes yn falch o'r hyn mae'r pwyllgor lleol wedi'i gyflawni.

Dywedodd Ken Hughes: "Mae hi wedi bod yn fraint bod yn Gadeirydd, gan weld y gymuned gyfan yn cefnogi'r ŵyl, mae hi wedi bod yn wych!

"Rydyn ni wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn ddiwetha', o noson win, i saethu colomennod clai, a raffl.

"Mae un ddynes, Christine wedi gwneud jig-so gyda golygfeydd lleol arnyn nhw, mae hi wedi casglu tua £6000-£7000 tuag at y gronfa leol, sy'n swm anhygoel!

"Mi wnes i brofi'r fath wefr mewn cyngerdd yn eglwys Llanengan, gyda chôr o 17 o delynau o dan arweiniad Alwena Roberts yn swyno'r gynulleidfa. Dw i hefyd wedi mwynhau ein prynhawniau difyr ar ddydd Iau, pan rydyn ni'n gwahodd rhywun i sgwrsio â ni bob wythnos.

"Mae hi wedi bod yn brofiad gwych casglu arian drwy gymdeithasu a mwynhau! Dw i wedi gwneud degau o ffrindiau drwy’r ŵyl."

Mae Ken wedi byw ym Mhentre Felin, Cricieth ers chwarter canrif, ac mae'n teimlo fod gan Lŷn ac Eifionydd etifeddiaeth cerdd dant gref: "Mae hi'n ardal gerdd dant, ac mae sawl un wedi cael eu meithrin yn y grefft.

"Mae hynny wedi bod o fantais i mi, mae 'na griw mor frwdfrydig yma, ac mae hynny'n gwneud fy ngwaith i'n hawdd!"

Mae Ken wrth ei fodd â sŵn cerdd dant: "Dw i wrth fy modd efo sut mae'r gosodiad yn mwytho’r geiriau. Mae clywed gosodiad da yn ddirdynnol, ac yn llawn emosiwn! Mae geiriau yn holl bwysig wrth ganu cerddant, dyna le mae'r pwyslais."

Disgrifia Ken ei hun fel 'hogyn o Lanllyfni', ond symudodd i ardal Eifionydd oherwydd ei swydd.

Roedd o'n bennaeth yn ysgol gynradd Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am 24 mlynedd. Er ei fod bellach wedi ymddeol, mae'n grediniol y dylai ysgolion ar draws Cymru hyrwyddo cerdd dant.

"Yn yr oes sydd ohoni, mae 'na lot o bwyslais ar bynciau penodol, ac mae traddodiad diwylliannol yn cael ei roi i un ochr.

"Mae'n bwysig fod ysgolion Cymru yn rhoi gwell cydbwysedd rhwng addysg ac etifeddiaeth. Mae profiad diwylliannol yn bwysig i unrhyw wlad, dyna sy'n ein huno ni.

"Pan oeddwn i'n bennaeth, ro'n i'n gofyn i Carys Jones o Chwilog ddod i ddysgu cerdd dant i'r plant."

Mae Ken yn disgwyl nifer fawr o gystadleuwyr ym Mhwllheli ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd, ac mae'n annog cynulleidfa'r ŵyl, ynghyd â gwylwyr S4C i gefnogi'r ŵyl.

"Mae hi'n ardal brydferth, a dw i'n gobeithio y cawn ni gynulleidfa wych! Rŵan mae'n gwaith caled ni'n dechrau!"  

Rhannu |