Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Tachwedd 2016

Yr Eglwys yng Nghymru yn ethol eu Hesgob benywaidd cyntaf

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi mai'r Canon Joanna Penberthy yw esgob newydd Tyddewi - yr esgob benywaidd cyntaf i gael ei hethol yng Nghymru.

Ar ôl cau drysau Tyddewi i drafod y penodiad ddydd Mawrth, daeth y cyhoeddiad hanesyddol heddiw mai Joanna Penberthy yw 129fed Esgob Tyddewi, esgobaeth sy'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Caiff ei phenodi yn dilyn ymddeoliad Wyn Evans fuodd wrth y llyw am wyth mlynedd.

Mae'r siaradwraig Gymraeg 56 oed wedi bod yn ficer yn Sir Gâr, ac yn rheithor yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn y gorffennol ac yn Ganon Tyddewi rhwng 2007 a 2010.

Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru wnaeth y cyhoeddiad a hynny trwy ddatgloi ac agor drws gorllewinol y Gadeirlan yn Nhyddewi yn gynnar brynhawn heddiw.

Rhannu |