Mwy o Newyddion
Canolfan gofal arloesol gwerth £3m i greu 30 o swyddi yng Nghaernarfon
Mae’r gwaith wedi cychwyn ar ganolfan gofal arloesol gwerth £3 miliwn a fydd yn creu 30 o swyddi newydd yng Ngwynedd.
Mae’r 16 o fflatiau byw gofal cydymaith yn cael eu hadeiladu gan sefydliad gofal arobryn Parc Pendine ar gyrion Caernarfon, a’r rhain fydd y cyntaf o’u bath yng Nghymru.
Bwriedir lleoli datblygiad Parc Bryn Seiont drws nesaf i ganolfan rhagoriaeth y cwmni ar gyfer gofal dementia, sef Bryn Seiont Newydd, a agorodd fis Tachwedd y llynedd.
Cafodd y fflatiau dwy ystafell wely eu cynllunio’n benodol er mwyn galluogi cyplau i aros gyda’i gilydd pan fydd un ohonynt yn dioddef o ddementia ac angen gofal.
Wedi iddynt gael eu hagor yr haf nesaf, bydd cyfanswm nifer y bobl a gyflogir gan Parc Pendine ar y safle yn codi i 140 a bydd cyfanswm y buddsoddiad yn £10 miliwn.
Eglurwyd y cysyniad i AC Arfon, Sian Gwenllian ac AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth gan y perchennog Mario Kreft MBE, a fu’n eu tywys o gwmpas y cynllun.
Dywedodd Sian Gwenllian: “Mae’n sicr yn rhywbeth sy’n dangos y ffordd ymlaen. Mae’n ddiddorol iawn gweld bod Caernarfon yn arwain y ffordd yn y math hwn o ddatblygiad.
“Mae’n beth hynod drist bod cyplau yn cael eu rhannu pan fydd un ohonynt yn sâl, felly mae unrhyw beth a all gadw pobl gyda’i gilydd cyn hired â phosib yn fwy buddiol i bawb yn y diwedd.”
Adleisiwyd y teimlad hynny gan Rhun ap Iorwerth a ddywedodd: “Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn mynd i osod nifer o heriau gwahanol i ni ac un o’r pethau y mae’n rhaid i ni ei wneud wrth ddangos parch tuag at ein pobl hŷn, yw ceisio cadw cyplau gyda’i gilydd.
“Mae’r hyn sydd ganddyn nhw yma ym Mharc Seiont yn syniad arloesol i gadw cyplau gyda’i gilydd neu hyd yn oed eu haduno - a rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i bobl.
“Mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth i helpu i wneud iddo weithio oherwydd os yw’r model a geir yma yn llwyddiannus, yna dyma’r math o beth y byddwn ei angen yn gynyddol mewn blynyddoedd i ddod.”
Hefyd, aeth y ddau AC i weld y staff a’r preswylwyr ym Mryn Seiont Newydd, sef y ganolfan dementia wreiddiol.
Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae Bryn Seiont yn adnodd gwerthfawr a dylem hyrwyddo’r arfer gorau a’r safonau uchel a welir yma.”
Ychwanegodd Ms Gwenllian: “Mae’r cyfleusterau ym Mryn Seiont Newydd yn wych ac mae ôl meddwl mawr ar y cynllun, sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer pobl â dementia.”
Roedd Mario Kreft yn ddiolchgar i’r Aelodau Cynulliad am neilltuo amser ar eu hamserlenni prysur i ddod ar ymweliad.
Dywedodd: “Mae’r fflatiau byw gofal cydymaith yn gysyniad newydd yma yng Nghymru.
“Maen nhw wedi cael eu cynllunio ar gyfer cyplau neu hyd yn oed brodyr a chwiorydd neu ffrindiau, yn enwedig os oes angen llawer iawn o ofal ar un ohonynt,
“Ein bwriad yw agor yr haf nesaf, ac mi fydd hynny yn ychwanegol at y 71 o welyau sydd gennym eisoes ym Mryn Seiont Newydd.
“Rydym yn gweld Parc Bryn Seiont fel ychwanegiad newydd gwerthfawr iawn i’r gwasanaethau yn yr ardal ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod gan bobl ddiddordeb mawr yn y cysyniad.
“Os a phan y bydd angen, caiff y bobl sy’n byw yn y fflatiau fynediad at y gwasanaethau safon uchel a ddarperir drws nesaf ym Mryn Seiont Newydd.
“Gan fod y syniad mor newydd byddwn yn cynnal rhai diwrnodau agored yn ddiweddarach yn y flwyddyn lle gallwn esbonio wrth bobl beth yn union rydym yn ei wneud.
“Bydd hyn yn golygu bod cyfanswm ein buddsoddiad yn y safle hwn oddeutu £10 miliwn ac mae’n mynd i wneud y safle yma'n gymuned gofal arwyddocaol iawn ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.
“Mae gofyn i ni gyd greu gwasanaethau newydd a gwneud pobl yn fwy annibynnol.
“Bydd y fflatiau byw cydymaith yn galluogi gofalwyr i fyw gyda’u hanwyliaid a chael mynediad i gefnogaeth 24/7 os a phan fydd ei angen arnynt, yn ogystal â chael mynediad at ofal seibiant.
“Bydd yna dŷ bwyta, gwasanaethau cadw tŷ, gwasanaethau golchi dillad ac yn y blaen hefyd ar gael pe bai angen, ac yn allweddol bydd cyfle hefyd i allu ymwneud yn gymdeithasol yn ein rhaglen gyfoethogi celfyddydol.
“Mae’r fflatiau yn mynd i fod yn rhai moethus a helaeth iawn, llawer mwy na'r hyn y gallech ei ddisgwyl, a byddant yn cynnwys technoleg dementia-gyfeillgar fel bod y goleuadau yn dod ymlaen yn awtomatig os oes rhywun yn codi o'r gwely yng nghanol y nos.
“Rydym yn credu drwy fuddsoddi yng Ngogledd Orllewin Cymru ac yn y gwasanaethau y mae pobl eu hangen y bydd y buddsoddiad yn cael ei gydnabod fel rhywbeth gwerthfawr iawn i’r ardal.”
Llun: Sian Gwenllian a Rhun ap Iorwerth gyda Mario Kreft